Cywion Gweilch-y-pysgod yn deor yn Nyffryn Dyfi
- Cyhoeddwyd
Mae cywion Gweilch wedi cael eu geni yn Nyffryn Dyfi am yr ail flwyddyn yn olynol.
Fe gafodd y cyw cyntaf ei eni ar dir cynllun gweilch-y-pysgod Dyfi am 9.38am ar Fai 28 ac fe gafodd yr ail gyw ei eni am 6.30am y diwrnod wedyn.
Mae'r ddau gyw wedi bod yn bwyta brithyll môr a disgwylir i drydydd cyw gael ei eni maes o law.
Yn gynharach ym mis Mai cafodd cywion eu deor yn safle'r RSPB yng Nglaslyn yng Ngogledd Cymru.
Dywedodd warden cynllun Gweilch-y-pysgod Dyffryn Dyfi, Emyr Evans, ei fod wedi sylwi craciau bach yn ymestyn ar hyd yr wy cyntaf yng nghanol mis Ebrill.
Ychwanegodd Mr Evans: "Erbyn i'r fflam Olympaidd fynd heibio gwarchodfa Cors Dyfi roedd y twll bach yn yr wy ac ar ôl hynny aeth popeth yn wallgo'."
Monty a Nora
Roedd patrwm y genedigaethau yn debyg i enedigaeth tri chyw yng Nghors Dyfi'r llynedd.
Y gred yw mai'r cywion hyn oedd y rhai cyntaf i gael eu magu ar afon Dyfi er 1604.
Fe gafodd y cyw cyntaf ei eni yng Nghors Dyfi ar Fehefin 5, 2011, a'r ail y diwrnod canlynol.
Roedd tad y cywion, Monty, wedi methu denu cymar am y ddwy flynedd ers iddo ymgartrefu mewn nyth 50 troedfedd o uchder yng ngwarchodfa Cors Dyfi, cartref Prosiect Gweilch y Dyfi.
Ond y llynedd fe ddaeth cymar i'r nyth ddeuddydd wedi i Monty gyrraedd, ac fe gafodd yr enw Nora.
Cafodd poblogaeth y gweilch ym Mhrydain ei ddifa'n llwyr yn 1916.
Yn 1954 fe gafwyd rhaglen i geisio magu'r aderyn unwaith eto.
Erbyn hyn mae tua 200 o barau ym Mhrydain, yn bennaf yn Yr Alban.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mawrth 2012