Lansio cerdyn adnabod newydd i bobl ifanc

  • Cyhoeddwyd
ID card
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Barnardo's Cymru y byddai'r cerdyn yn helpu pobl ifainc gyda rhwystrau yn eu bywydau

Mae cerdyn adnabod ar gyfer pobl ifanc sydd mewn gofal, neu sy'n gofalu am eraill, wedi ei lansio.

Mae'r cardiau cyntaf yn cael eu dosbarthu yn Sir y Fflint ar gais pobl ifanc sy'n ei chael yn anodd esbonio eu statws i'w hathrawon yn yr ysgol.

Mae'r cynllun, yr un gyntaf yng Nghymru, yn cael ei redeg gan yr elusen Barnardo's ar y cyd gyda Chyngor Sir y Fflint.

Dywedodd Kate Jones, 21 oed, a oedd mewn gofal, bod hwn yn "syniad da dros ben".

"Bydd yn gwneud gwahaniaeth mawr i bobl ifanc sydd ei angen, sydd ddim am orfod esbonio eu sefyllfa bob amser maen nhw'n mynd i dderbynfa gwasanaethau cymdeithasol, neu yn yr ysgol," meddai.

Methu esbonio

"Pan fu farw fy mam byddai carden adnabod wedi helpu i esbonio fy sefyllfa.

"Ar y pryd, doedd fy ymddygiad ddim yn dda ond nid oeddwn am siarad am beth oedd wedi digwydd nac esbonio fy hun.

"Yn y diwedd, roedd pethau mor wael ysgrifennais rif ffôn fy ngweithiwr cymdeithasol ar ddarn o bapur, ei roi lawr o flaen fy athro a dywedais wrthi am ffonio'r rhif os oedd hi am wybod beth oedd yn bod arnaf.

"Petawn i wedi gallu cael carden adnabod byddai pethau wedi bod llawer yn haws."

Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae Comisiynydd Plant Cymru am weld y garden yn cael ei ddefnyddio dros Gymru

Dywedodd Comisiynydd Plant Cymru, Keith Towler, a fynychodd lansiad y fenter yn Clwyd Theatr Cymru: "Yn fy adroddiad, Bywyd Llawn Gofal, darganfuwyd bod y mwyafrif o bobl ifanc sydd mewn gofalu am rywun arall yn teimlo bod eu rôl ddim yn cael ei adnabod na'i werthfawrogi.

"Oherwydd hyn mi wnes i argymell datblygiad cerdyn adnabod cenedlaethol i helpu pobl ifanc i ddynodi eu rôl ac i ddarparu gwell mynediad at ddealltwriaeth cefnogol.

"Trwy estyn y garden yma i bobl ifanc sydd mewn gofal eu hunain, mae Barnardo's Cymru a gwasanaethau cymdeithasol Sir y Fflint wedi cymryd cam mawr tuag at wella bywydau rhai o blant a phobl ifanc mwyaf sydd fwyaf bregus yn ein cymdeithas."

Mae pobl ifanc yn eu harddegau sydd mewn gofalu am rieni gyda phroblemau iechyd hefyd wedi siarad am sut nad yw athrawon yn deall eu sefyllfa.

Dywedodd Sarah Matthews o Barnardo's Cymru y byddai'r garden yn helpu pobl ifainc gyda rhai o'r rhwystredigaethau maent yn eu hwynebu.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol