Rhodd ddienw'n 'achub' eglwys yn Sir Benfro

  • Cyhoeddwyd
Sant NicholasFfynhonnell y llun, other
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr eglwys ei hailadeiladu yn y 1860au am £100.

Mae drysau eglwys hynafol yn Sir Benfro ar agor o hyd oherwydd rhodd o £3,000 oddi wrth rywun dienw.

Ond mae plwyfolion Eglwys Sant Nicholas yn Monington ger Llandudoch yn ailddechrau codi arian er mwyn diogelu'r eglwys am flwyddyn arall.

Dydd Sadwrn mae addolwyr yn cynnal diwrnod agored er mwyn hybu eu hymgyrch.

Roedd pryder y byddai'n rhaid ei chau am nad oedd modd casglu £5,000 i gronfa ganolog yr Eglwys yng Nghymru.

Dywedodd Ceri Philips, warden y ficer, fod y rhodd o £3,000 wedi helpu'r eglwys dalu ei chyfraniad ar gyfer y llynedd.

Pererindod

Mae'r eglwys yn hanesyddol ac ar y daith bererindod i Dyddewi.

Yn hanesyddol roedd yn daith diwrnod o un eglwys i'r eglwys nesaf.

Does dim trydan na dŵr yn yr eglwys ac mae lampau olew'n cael eu defnyddio.

"Mae'r adeilad mewn cyflwr gweddol o gofio ei oedran," meddai Ceri Philips.

"Rydyn ni'n gorfod atgyweirio un neu ddau o'r llechi ar y to."

'Criw bychan'

Dywedodd fod "criw bychan" yn cwrdd rhyw chwe gwaith yn ystod yr haf.

Dyw'r eglwys ddim yn cwrdd yn y gaeaf, meddai, oherwydd problemau gwresogi ond roedd bwriad i gynnal gwasanaeth Nadolig.

"Ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn gwybod beth fydd ein cyfraniad i'r gronfa ganolog eleni," meddai.

"Ond gan fod yr Eglwys wedi ad-drefnu ychydig rydyn ni'n gobeithio o bosib y bydd y cyfraniad yn llai."

Yr hen enw Cymraeg ar Eglwys Sant Nicholas yw Eglwys Wythwr.

Wyth teulu oedd yn y plwyf pan gafodd yr eglwys ei hailadeiladu yn y 1860au am £100.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol