Gŵyl i ddathlu ymweliad y Beatles â gogledd Cymru
- Cyhoeddwyd
Gŵyl i ddathlu cerddoriaeth y Beatles yn cael ei chynnal ym Mhrestatyn, Sir Ddinbych, am y tro cyntaf dros y penwythnos.
Mae'r ŵyl yn digwydd 50 mlynedd wedi i'r grŵp chwarae yng ngogledd Cymru am y tro cyntaf.
Bu'r Beatles yn cynnal cyngherddau yn Y Rhyl a Phrestatyn yn 1962 a hefyd yn Yr Wyddgrug yn 1963.
Mae'r ŵyl wedi cael ei threfnu gan Glenn Mitchell, aelod o'r Cavernites, grŵp sydd wedi ei ysbrydoli gan y Beatles.
"Roedden ni am dynnu sylw at y ffaith bod y Beatles wedi dod i Gymru," meddai Mr Mitchell.
"Roedd eu cyngerdd cyntaf yn yr ardal yn Y Rhyl a Pete Best oedd y drymiwr ar y pryd.
"Y tro nesa' wnaethon nhw chwarae oedd ym Mhrestatyn a dyma'r tro cyntaf iddyn nhw ymddangos yng Nghymru fel John, Paul, George a Ringo.
"Rydyn ni'n cynnal yr ŵyl mewn gwesty, sydd ryw 100 llath o'r adeilad ble bu'r Beatles yn chwarae."
Mae nifer o grwpiau'n cymryd rhan dros y penwythnos, gan gynnwys y Cavernites, y Mersey Beatles o Lerpwl a'r Beatelles, band teyrnged benywaidd.
Bydd siaradwyr arbennig hefyd yn cymryd rhan.
Mae yna gysylltiadau eraill rhwng Prestatyn a'r Beatles.
"Cafodd Brian Epstein, rheolwr y Beatles, ei anfon i Brestatyn fel plentyn yn ystod y rhyfel," meddai Mr Mitchell.
"Cafodd Neil Aspinall, a ddechreuodd ei yrfa fel cynorthwywr i'r grŵp, ei eni yn y dref."
Mae'r ŵyl yn cychwyn am 7pm dydd Gwener Mehefin 22 yng ngwesty'r Beaches ym Mhrestatyn ac yn gorffen ddydd Sul Mehefin 24.