Corff newydd i hybu dysgu digidol
- Cyhoeddwyd
Bydd grŵp yn cael ei sefydlu i hybu dysgu digidol yng Nghymru.
Dywedodd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews y bydd y Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol, fydd yn cynnwys athrawon a gweithwyr proffesiynnol eraill, yn dechrau ar ei waith ym mis Medi.
Mae'n dilyn adolygiad o sut y mae athrawon a disgyblion yn defnyddio technoleg ddigidol.
Bydd "platfform dysgu" newydd dan yr enw Hwb, ac fe fydd anogaeth i ddefnyddio'r adnodd addysgol iTunes U.
Dangosodd adolygiad, a orchmynwyd gan Lywodraeth Cymru yn gynharach eleni, bod angen creu system addysgu ddigidol newydd mewn ysgolion sy'n defnyddio teclynau llaw a chyfridfiaduron 'cwmwl' yn cael ei weld fel y norm.
'Manteisio ar gyfleoedd'
Mewn ymateb i hynny mae Mr Andrews wedi cyhoeddi cyfres o fesurau, gan ychwanegu: "Nid yw'n afresymol i ddysgwyr, rhieni ac athrawon i ddisgwyl bod y dechnoleg maen nhw'n defnyddio yn eu bywydau bob dydd hefyd yn cael eu defnyddio ym myd addysg.
"Dw i wedi dweud o'r blaen bod angen i ysgolion ddysgu a rhannu'r syniadau gorau.
"Mae angen i dechnoleg briodol fod ar gael iddyn nhw hefyd ac mae angen y sgiliau arnyn nhw i fanteisio i'r eithaf ar dechnoleg ddigidol.
"Mae'r we'n adnodd dysgu gwych ar gyfer plant a phobl ifanc.
"Mae angen i ni helpu dysgwyr i ddatblygu'r sgiliau, yr hyder a'r aeddfedrwydd i lywio'u ffordd yn ddiogel drwy'r byd newydd yma ac i fanteisio ar y cyfleoedd sy'n dod gyda hynny.
"Drwy Hwb, byddwn yn annog ysgolion a cholegau yng Nghymru i wneud defnydd llawn o dechnolegau cymdeithasol er mwyn ennyn diddordeb dysgwyr a gwella deilliannau dysgwyr.
"Dw i am i Gymru fod ar flaen y gad o ran dysgu digidol. Dwi'n credu bod y camau dw i wedi'u hamlinellu heddiw yn dangos sut gallwn ni gyrraedd y nod hwnnw."
Y mesurau
Ymhlith y mesurau newydd fydd:
Sefydlu Cyngor Dysgu Digidol Cenedlaethol newydd i roi arweiniad arbenigol a strategol ar ddefnyddio technoleg ddigidol ym maes dysgu ac addysgu yng Nghymru;
Lansio platfform dysgu dwyieithog newydd i Gymru, a fydd yn cael ei enwi'n Hwb am y tro, ac a fydd yn blatfform i addysgwyr a dysgwyr o bob rhan o Gymru allu rhannu adnoddau, gwybodaeth a phrofiad;
Creu Casgliad Digidol Cenedlaethol a fydd yn cynnwys storfa ar gyfer miloedd o adnoddau'n ymwneud â'r cwricwlwm ac arferion da y gall athrawon a dysgwyr eu lanlwytho, eu rhannu a'u defnyddio;
Annog defnyddio iTunes U er mwyn arddangos yr adnoddau a'r gweithgareddau addysgol gorau sydd i'w cael yng Nghymru;
Sefydlu tîm o Arweinwyr Digidol o blith yr ymarferwyr gorau sy'n defnyddio technoleg ddigidol yn yr ystafell ddosbarth;
Cynnig datblygiad proffesiynol ychwanegol i athrawon a staff eraill mewn ysgolion er mwyn cefnogi'r gwaith o addysgu cyfrifiadureg a thechnoleg gwybodaeth, gan adeiladu ar y brwdfrydedd sydd i'w weld o'r newydd yn sgil nwyddau megis y Raspberry Pi a'r Dot Net Gadgeteer er mwyn annog pobl ifanc i astudio a gweithio yn y dyfodol ym maes cyfrifiadureg;
Noddi Digwyddiad Digidol Cenedlaethol er mwyn codi proffil technoleg ddigidol mewn addysg, a thynnu sylw at lwyddiant Cymru yn y maes hwn.
Dydd Gwener, bydd Mr Andrews yn ymweld â champws technoleg Prifysgol Abertawe, sydd wedi eu cynllunio i annog plant ysgol i ddysgu am gyfrifiaduron.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2012
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2012