Coffáu digwyddiadau hanesyddol yng Nghwm Rhondda
- Cyhoeddwyd
Mae gweithgareddau yng Nghwm Rhondda yn nodi 200 mlynedd ers i'r pwll dwfn cyntaf gael ei suddo.
Yr un diwrnod mae'r cwm yn nodi 100 mlynedd ers sefydlu'r Tîm Achub yn Lewis Merthyr.
Corau a seindorf pres sy'n diddanu ymwelwyr Parc Treftadaeth Y Rhondda rhwng hanner dydd a 4pm ddydd Sadwrn.
"Mae effeithiau'r ddau ddigwyddiad hanesyddol wedi bod yn arwyddocaol," meddai Nicola Newhams o'r Parc Treftadaeth.
Man cychwyn
Walter Coffin yw'r dyn ddatblygodd feysydd glo'r Rhondda yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg.
Cafodd y pwll dwfn cynta ei agor yn Dinas a hwn oedd man cychwyn sefydlu'r ardal fel un feysydd glo cyfoethoca'r byd.
Ganrif yn ddiweddarach aed ati i sefydlu'r Tîm Achub - ac mae cofeb las yn cael ei dadorchuddio yn Lewis Merthyr ddydd Sadwrn.
"Heb gloddio yn Dinas mae'n annhebyg y byddai'r diwydiant glo wedi datblygu yma o gwbl," meddai Ms Newhams.
"Mae'r Tîm Achub yn hynod bwysig.
'Aberfan'
"... roedd yn bwysig adeg trychineb Aberfan ac, yn fwy diweddar, ym Mhwll y Gleision.
"Er nad oes yna lawer o lofeydd ar ôl - mae yna rai pyllau bach - mae'r tîm yn bwysig o hyd."
Côr Meibion y Cambrian, y delynores Jennifer Jones a Seindorf Lewis Merthyr sy'n diddanu'r ymwelwyr.