Bethan Jenkins yn cael seibiant o Twitter wedi ffrae am ymweliad Y Frenhines

  • Cyhoeddwyd
Bethan JenkinsFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Bethan Jenkins yw un o ddefnyddwyr amlyca'r Senedd o Twitter

Mae un o Aelodau'r Cynulliad yn cymryd seibiant o ddefnyddio gwefan gymdeithasol Twitter ar ôl disgrifio Martin McGuinness o Sinn Fein fel "naïf" am gytuno i gyfarfod Y Frenhines.

Mae defnyddwyr y Blaid Lafur o'r wefan wedi ymosod ar y sylwadau, sydd wedi eu dileu ers hynny gan Bethan Jenkins.

Fe fydd Mr McGuinness, Dirprwy Weinidog Cyntaf gogledd Iwerddon, yn cyfarfod Y Frenhines mewn digwyddiad elusennol ddydd Mawrth.

Wedi ei brawychu o gael ei chyhuddo "o geisio dadsefydlogi'r broses heddwch", mae Ms Jenkins yn cymryd seibiant o wefan Twitter.

Fe wnaeth y Blaid Lafur dynnu sylw at ei sylwadau ddydd Gwener ddiwethaf ar ôl y cyhoeddiad am gyfarfod hanesyddol cyntaf rhwng Y Frenhines a Mr McGuinness, cyn arweinydd yr IRA.

Mae Ms Jenkins yn un o ddefnyddwyr amlyca twitter.

Wrth ymateb i'r feirniadaeth dywedodd ei bod, fel merch i fam o Iwerddon a oedd wedi byw yno drwy gyfnod y trafferthion, wedi ei brawychu gan y syniad ei bod yn ceisio dadsefydlogi'r broses heddwch.

Mewn datganiad dywedodd ei bod "yn gadael twitter am y tro".

Dim difrïo

"Dwi wedi dod i'r casgliad ei fod wedi dod yn llai o fforwm ar gyfer cyfathrebu agored a phersonol gydag etholwyr ac yn fwy o arf yn nwylo gwrthwynebwyr gwleidyddol sydd a dim i'w gynnig i'r etholwyr.

"Mae'n drist, ond dwi ddim am gael fy ngwrthdynnu rhag fy ngwaith fel AC i ddelio gyda'r materion yma.

"Dwi ddim chwaith am ganiatau iddo ddifrïo gwaith da y mae Plaid Cymru yn ei wneud ar ran cymunedau yng Nghymru."

Mae Ms Jenkins yn rhannu barn weriniaethol ei harweinydd Leanne Wood.

Fe wnaeth Ms Wood wrthod gwahoddiad yn ddiweddar i fynychu gwasanaeth gyda'r Frenhines yn Eglwys Gadeiriol Llandaf i nodi ei Jiwbilî Diemwnt.

Yn ystod ymgyrch arweinyddiaeth diweddar Plaid Cymru dywedodd Ms Wood y byddai'n bresennol pan fydd Y Frenhines yn agor y Cynulliad.

Mae'r Frenhines yn cychwyn taith ddeuddydd hanesyddol yng Ngogledd Iwerddon ddydd Mawrth.

Mae'n rhan o'i thaith o amgylch Prydain i nodi'r Jiwbilî.

Mae disgwyl yr ysgwyd llaw hanesyddol gyda Mr McGuinness mewn digwyddiad celfyddydol yn Belfast ddydd Mercher.

Yno hefyd y bydd Peter Robinson, Gweinidog Cyntaf Gogledd Iwerddon ac Arlywydd Gweriniaeth Iwerddon Michael D. Higgins.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol