Cymru i wynebu Serbia yn Novi Sad

  • Cyhoeddwyd
Roedd gêm diwethaf Cymru yn erbyn Mecsico yn Efrog NewyddFfynhonnell y llun, AP
Disgrifiad o’r llun,

Roedd gêm diwethaf Cymru yn erbyn Mecsico yn Efrog Newydd

Daeth cadarnhad y bydd gêm oddi cartref cyntaf tîm pêl-droed Cymru yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 yn cael ei chwarae yn Novi Sad, Serbia.

Dyma fydd ail gêm Cymru yn y bencampwriaeth a fydd yn cychwyn bedwar niwrnod yn gynharach yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Gwlad Belg fydd y gwrthwynebwyr cyntaf ar Fedi 7 cyn i dîm Chris Coleman deithio i Stadiwm Karadjordje.

Does 'na ddim cadarnhad eto yn lle y bydd y gêm rhwng Croatia a Chymru ar Hydref 16.

Fe fydd Cymru yn croesawu'r Alban ar Hydref 12 i Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae rheolwr Cymru hefyd wedi sicrhau gêm gyfeillgar yn erbyn Awstria yn Stadiwm Liberty ar Chwefror 6 2013.

Fe fydd gêm gyfeillgar yn erbyn Bosnia-Hercegovina ym Mharc y Scarlets ar Awst 15 2012 cyn i'r ymgyrch tuag at Gwpan y Byd yn Brasil gychwyn fis Medi.

Gemau Cymru yn ymgyrch Cwpan y Byd

2012

Medi 7: Gwlad Belg (adref) - Stadiwm Dinas Caerdydd

Medi 11: Serbia (oddi cartref) - Stadiwm Karadjordje, Novi Sad

Hydref 12: Yr Alban (adref) Stadiwm Dinas Caerdydd

Hydref 16: Croatia (oddi cartref)

2013

Mawrth 22: Yr Alban (oddi cartref)

Mawrth 26: Croatia (adref) Stadiwm Liberty

Medi 6: Macedonia (oddi cartref)

Medi 10: Serbia (adref)

Hydref 11: Macedonia (adref)

Hydref 15: Gwlad Belg (oddi cartref)