Y Scarlets yn arwyddo clo Yr Ariannin Tomás Vallejos o'r Harlequins
- Cyhoeddwyd
Mae'r Scarlets wedi arwyddo clo Yr Ariannin, Tomás Vallejos, o'r Harlequins ar drothwy tymor 2012-13.
Vallejos, 27 oed, yw'r cyntaf o'r Ariannin i arwyddo ar gyfer un o ranbarthau Cymru.
Mae o wedi ennill un cap rhyngwladol ac fe fydd yn ymuno â George Earle o Dde Affrica.
Daw'r ddau i'r rhanbarth ar ôl i dri o'r ail reng adael y Scarlets.
Mae Lou Reed wedi mynd at y Gleision tra bod Damian Welch a Dominic Day wedi gadael am Gaerwysg a Chaerfaddon.
Chwaraeodd Vallejos am y tro cyntaf dros ei wald yn erbyn Georgia yng Nghwpan y Byd 2011 yn Seland Newydd.
Mae o hefyd wedi chwarae i dîm Parma yn Yr Eidal.
"Rydym yn credu y gallwn ddod â dimensiwn newydd i'r ail reng," meddai prif hyfforddwr y Scarlets, Simon Easterby.
"Rydym eisiau chwaraewyr sy'n iawn i ni fel clwb yn ogystal ag ategu at y rhai sydd ganddo ni eisoes.
"Mae Vallejos yn wych fel blaenwr yn y llinellau ac yn chwaraewr athletaidd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd21 Mai 2012