'Angen mwy o arian' i wireddu cynllun apwyntiadau

  • Cyhoeddwyd
StethosgôpFfynhonnell y llun, Gwyddoniaeth
Disgrifiad o’r llun,

Roedd rhai meddygfeydd wedi rhoi'r gorau i gynnig apwyntiadau penwythnos am nad oedd galw

Mae arolwg barn yn codi pryderon am ymestyn oriau agor meddygfeydd, gyda rhybudd i Lywodraeth Cymru nad yw meddygon teulu yn fodlon gweithio oriau ychwanegol am ddim.

Dywedodd Cymdeithas Feddygol y BMA y gallai gorfodi meddygon i weithio boreau Sadwrn gael effaith andwyol ar recriwtio.

Yn ôl gweinidogion, fydd y polisi ddim yn costio mwy o arian a fydd meddygon teulu ddim yn gorfod gweithio oriau hirach.

Mae llefarydd ar ran y llywodraeth wedi dweud bod casgliadau adroddiad y Democratiaid Rhyddfrydol wedi'u "gorliwio".

Roedd pob un heblaw am dri o'r 130 meddygfa a gafodd eu holi gan y blaid yn dweud nad oeddynt yn credu y gallai'r polisi weithio heb ragor o arian.

Roedd y blaid wedi anfon holiaduron at tua 680 o feddygfeydd.

'Dim galw'

O'r 130 a ymatebodd, roedd 113 yn anghytuno gyda'r polisi ac 127 yn dweud nad oeddynt yn credu ei fod yn ymarferol heb gyllid ychwanegol.

Dywedodd rhai meddygon teulu eu bod eisoes wedi holi cleifion ac nad oedd llawer o alw am apwyntiadau gyda'r nos ac ar benwythnos.

Yn ôl un meddyg: "Rydym wedi agor ar ddyddiau Sadwrn ac roeddan ni'n lwcus i weld dau glaf."

Roedd rhai yn sôn am "wrthwynebiad chwyrn" a meddyg arall yn dweud bod y polisi yn "sarhad".

Ym maniffesto Llafur adeg Etholiadau'r Cynulliad, roedd y blaid wedi addo ei gwneud hi'n haws i bobl weld meddyg gyda'r nos neu ar fore Sadwrn.

Yn ôl yr ystadegau diweddara', roedd 31% o feddygon teulu y llynedd yn cynnig apwyntiadau yn ystod yr "oriau craidd", rhwng 8am a 6.30pm o ddydd Llun i ddydd Gwener, heb gau dros ginio.

Ond roedd 92 (19%) o feddygfeydd yn cau am hanner diwrnod o leia' unwaith yr wythnos.

Recriwtio

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams: "Dyma oedd eu prif addewid o ran iechyd ac nawr mae meddygon teulu, sydd i fod i weithredu'r polisi, yn cwestiynu a oes ei angen ac a yw'n fforddiadwy yn yr hinsawdd economaidd bresennol."

Yn ôl y Gymdeithas Feddygol, maen nhw wedi rhybuddio'r llywodraeth yn rheolaidd nad oedd yna awydd mawr ymhlith eu haelodau i weithio oriau hirach am ddim ac y byddai gorfodi meddygon teulu i weithio ar foreau Sadwrn yn effeithio ar lefelau recriwtio.

'Gorliwio'

Dywedodd Dr David Bailey, cadeirydd pwyllgor meddygon teulu Cymru: "Rydym yn cefnogi gallu trefnu apwyntiadau hyd at 6.20pm - tu hwnt i'r oriau gweithio arferol o naw tan bump - er mwyn sicrhau bod cleifion yn cael y gofal gorau posib.

"Ond mae'n rhaid trafod ymestyn y gwasanaethau a byddai'n rhaid ei gyllido drwy wasanaeth uniongyrchol gwell - rhywbeth y gall pob bwrdd iechyd yng Nghymru ei gynnig nawr, neu ffurfio cytundebau gyda sefydliadau oriau hyblyg."

Dywedodd llefarydd ar ran y Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths: "Mae'n hysbys yn gyffredinol nad yw 'arolygon barn' y Democratiaid Rhyddfrydol yn werth y papur maen nhw wedi'u hysgrifennu arno.

"Mae'r ffaith nad ydynt yn fodlon cyhoeddi eu 'casgliadau' yn awgrymu y dylen ni i gyd wybod eu bod yn gorliwio'r honiadau."

Tri cham

Yn y cyfamser, mae'r Gweinidog Iechyd Lesley Griffiths wedi amlinellu sut i wella mynediad i wasanaethau meddygon teulu ledled Cymru mewn tri cham, gyda'r ffocws ar wneud apwyntiadau'n fwy cyfleus i bobl sy'n gweithio.

Yn ystod y cam cyntaf, sydd eisoes ar y gweill, bydd apwyntiadau'n cael eu haildrefnu ar gyfer nes ymlaen yn y diwrnod, rhwng 5.00 a 6.30 pm. Bydd apwyntiadau ar gael yn gynharach yn y bore hefyd lle bo angen.

Bydd yr ail gam yn canolbwyntio ar apwyntiadau gyda'r nos, ar ôl 6.30 p.m., er mwyn ceisio bodloni anghenion cleifion sy'n ei chael hi'n anodd mynd i'r feddygfa'n gynharach yn y dydd.

Ar hyn o bryd, mae 12% o'r meddygfeydd yn agor ar ôl 6.30 p.m. Rhagwelir yn ystod 2013/14 y bydd 30% o'r meddygfeydd yn cynnig agor ar ôl 6.30 p.m. Erbyn Mawrth 2016 disgwylir y bydd y ffigur hwn yn cyrraedd 50%.

Bydd y trydydd cam yn ceisio sicrhau y caiff apwyntiadau eu trefnu ar gyfer y penwythnosau.

Dywedodd Lesley Griffiths: "Mae gwella mynediad i wasanaethau'r meddygfeydd yn un o bum prif ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu.

"Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd yn gynharach eleni gwelwyd gwelliant ar y cyfan, gyda chynnydd eisoes wedi'i wneud i gael gwared ar gau meddygfeydd am hanner diwrnod.

"Ond mae modd gwneud rhagor o hyd i sicrhau ei bod yn haws i bobl weld eu meddyg".

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol