Cyflog byw: 'Synnwyr economaidd'

  • Cyhoeddwyd
Arian a derbynnebFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Bydd dros 2,000 o weithwyr Cyngor Caerdydd yn derbyn "cyflog byw" o fis Medi ymlaen

Cyngor Caerdydd yw'r awdurdod lleol cynta' yng Nghymru i gyflwyno "cyflog byw" i'w holl staff.

Bydd dros 2,000 o weithwyr y cyngor yn derbyn lefel o gyflog sydd uwchlaw'r isafswm presennol erbyn Medi 2012.

Yn ôl arbenigwyr, byddai cyflog byw yn cyfateb i o leia' £7.20 yr awr. Yr isafswm cyflog ar hyn o bryd yw £6.08 yr awr i weithwyr dros 21 oed.

Cyhoeddodd y cyngor, sydd o dan arweiniad Llafur, fod y mesurau yn rhan o "gynllun uchelgeisiol i fuddsoddi mewn staff a gwasanaethau rheng flaen."

Yr wythnos hon bydd dogfen yn amlinellu eu gweledigaeth ar gyfer y flwyddyn i ddod.

Ddydd Mawrth fe amlinellodd yr arweinydd, y Cynghorydd Heather Joyce, gynlluniau'r awdurdod i fod y cyngor cynta' yng Nghymru i dalu cyflog byw i'w staff.

'Hwb'

Dywedodd: "Mae'r staff dan sylw yn gwneud rhai o'r swyddi pwysica' a mwya' heriol o fewn y cyngor ac rydym yn credu y dylen nhw gael cyflog teg am eu gwaith.

Ond nid dim ond mater o gyfiawnder cymdeithasol yw hyn - mae'n gwneud synnwyr yn economaidd hefyd, rhoi ychydig yn fwy ym mhocedi pobl er mwyn rhoi hwb i fusnesau ar draws ein dinas.

"Mae hyn yn bwysig o ystyried y gallai rhyw 20% o bobl sy'n derbyn budd-daliadau yng Nghaerdydd ar hyn o bryd ddiodde' fis Ebrill nesa' oherwydd bod y llywodraeth yn ganolog yn ad-drefnu'r system lles.

"Rhaid cofio bod hyn ar adeg pan mae gwasanaethau'r cyngor eisoes o dan bwysau sylweddol fydd yn cynyddu wrth i ni geisio gwneud arbedion o thua £55m wrth i doriadau'r Ceidwadwyr-Democratiaid Rhyddfrydol ddangos eu hôl."

Dywedodd y cyngor y bydden nhw hefyd yn dibynnu llai ar ymgynghorwyr rheoli costus ac yn ailstrwythuro tîm uwch reoli'r cyngor.

Amddiffyn

Y bwriad, medden nhw, yw amddiffyn swyddi a gwasanaethau pwysicaf yr awdurdod drwy wneud £55m o arbedion dros y tair blynedd nesa'.

Mae'r Gweinidog dros Lywodraeth Lleol a Chymunedau, Carl Sargeant AC, wedi croesawu'r cyhoeddiad.

"Mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi ymrwymo i gefnogi staff ar gyflogau is am ein bod yn gwybod bod cyflogau teg nid yn unig yn gwneud pobl yn fwy cynhyrchiol ac yn rhoi hwb i'w hysbryd ond ei fod hefyd yn cefnogi iechyd da a bywyd teuluol."