Diwydiant copr yn ganolbwynt i ganolfan ymwelwyr newydd
- Cyhoeddwyd
Adrodd cysylltiad Ynys Môn fel prif safle cynhyrchu copr y byd yw nod canolfan dreftadaeth newydd.
Mae Teyrnas Gopr ar Lwybr Arfordir Cymru yn brif atyniad i ymwelwyr ag ardal Amlwch.
Fe fydd y ganolfan yn cael ei hagor yn swyddogol gan Huw Lewis, Gweinidog Tai, Adfywio a Threftadaeth Cymru.
Bydd pobl leol, cerddwyr a thwristiaid yn cael mwynhau golygfeydd trawiadol dros arfordir Ynys Môn a dysgu mwy am hanes yr ardal ac archaeoleg Mynydd Parys.
Mae'r ganolfan, sydd wedi'i datblygu gan Fenter Môn ar y cyd ag Ymddiriedolaeth Treftadaeth Amlwch, yn rhan o brosiect i gadw a hybu treftadaeth ddiwydiannol, gymdeithasol ac amgylcheddol Mynydd Parys a gogledd-ddwyrain Ynys Môn.
Mae'r atyniad newydd, sydd ar safle hen Gistiau Copr, yn golygu y bydd y cysylltiadau rhwng golygfeydd gwych Mynydd Parys, y dref a'r porthladd i'w gweld yn glir.
Fe fydd yr arddangosfa yn rhoi golwg ar waith mwyngloddio copr yn Amlwch, sy'n dyddio'n ôl i'r Oes Efydd a sut cafodd yr ardal ei llunio gan y cyfoeth a ddaeth yn sgil y diwydiant.
Buddsoddiadau
Bydd yr arddangosfa yn cynnwys gwybodaeth am berchnogion y mwyngloddiau, y gweithwyr a'r merched copr enwog.
Y gobaith yw y bydd 15,000 o bobl yn ymweld â'r ganolfan, sydd wedi creu dwy swydd newydd, yn y flwyddyn gyntaf.
Mae'r prosiect yn un o 24 sydd ar eu hennill yn sgil Prosiect Twristiaeth Treftadaeth Cadw sy'n cael ei gefnogi ag arian Ewropeaidd drwy Lywodraeth Cymru.
Fe wnaeth Cadw fuddsoddi £94,000 yn y prosiect ac fe roddwyd £460,000 arall gan raglen Môn a Menai.
"Mae twristiaeth yn eithriadol o bwysig o ran ei gyfraniad i economi Cymru ac amgylchedd hanesyddol trawiadol ac amrywiol Cymru yw'r rheswm y bydd cynifer o ymwelwyr yn dod yma," meddai Mr Lewis.
"Rwy'n falch ein bod wedi llwyddo i gynnig y cyllid sylweddol yma at y cynllun."
Mae Cronfa Dreftadaeth y Loteri (CDL) hefyd wedi cefnogi'r prosiect â grant o £497,000 i helpu i gadw strwythurau o bwys ar y Mynydd, datblygu llwybr treftadaeth, rhoi hyfforddiant i bobl leol mewn medrau traddodiadol a chreu cyfleusterau TG arloesol i gysylltu'r Mynydd â'r Ganolfan Ymwelwyr.
"Mae gorffennol diwydiannol cyfoethog yn rhan bwysig o dreftadaeth Cymru sy'n aros i gael ei chanfod," meddai Dr Rhian Thomas, Aelod Cymru ar Bwyllgor CDL.
"Bydd y ganolfan newydd wych a'r dulliau dehongli newydd yn caniatáu i'r ymwelwyr gamu nôl mewn amser a phrofi hanes unigryw Cymru, a hyn i gyd yn ardal hyfryd Arfordir Môn."
Dywedodd Neil Johnstone, Rheolwr Treftadaeth Menter Môn, eu bod yn gobeithio croesawu miloedd o bobl leol ac ymwelwyr i'r atyniad newydd.
"Bydd y prosiect arloesol yma yn ffordd ddifyr i'r ymwelwyr edrych ar dreftadaeth ddiwydiannol y porthladd yn Amlwch sydd bellach yn dawel."
Mae'r ganolfan newydd ar agor bob dydd ac eithrio dydd Llun rhwng 10.30am a 5.00pm tan ddiwedd mis Hydref 2012.