Annog penderfyniad ar ddyfodol cartre' gofal
- Cyhoeddwyd
Mae 'na alw ar gyngor i wneud penderfyniad brys ar ddyfodol cartref sy'n rhoi gofal i un preswylydd yn unig.
Mae cartref Bryneithin yn Ninas Powys, Bro Morgannwg, yn parhau yn agored er ei fod yn costio £450,000 y flwyddyn i'w gynnal.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Franks ei fod yn gobeithio fod gan y cartre' ddyfodol ond mae wedi galw ar y cyngor i gadarnhau un ffordd neu'r llall.
Yn ôl Cyngor Bro Morgannwg, maen nhw'n ystyried pob opsiwn a byddan nhw'n sicrhau bod y cartre' yn cwrdd â'r safonau cofrestru tra bod preswylwyr yn aros yno.
Mae Mr Franks, cynghorydd Plaid Cymru, wedi dweud bod yr awdurdod lleol wedi ystyried cau'r cartre' dros y blynyddoedd diwetha'.
Ond daeth i'r amlwg fod gan breswylwyr hawl o dan eu cytundeb i aros yn y cartre' hyd nes eu bod yn marw.
'Eglurdeb'
Dywedodd Mr Franks fod Bryneithin wedi darparu gofal rhagorol a bod y cynlluniau i gau'r cartre' wedi'u gweithredu mewn "modd ofnadwy heb unrhyw ymgynghori".
Galwodd ar y cyngor i gadarnhau beth oedd dyfodol y cartre' ar frys, gan ychwanegu: "Ddylen ni ddim fod wedi dod at hyn.
"Mae'n rhaid i'r cyngor fod yn eglur am yr hyn y mae'n bwriadu ei wneud.
"Rydym yn credu fod 'na ddyfodol mawr i'r safle ar gyfer gofal i'r henoed a'r bregus.
"Mae 'na gymuned leol gefnogol tu hwnt ac mae 'na alw cynyddol am ofal i'r henoed ac oedolion bregus."
Gwariant
Cadarnhaodd Lance Carver, pennaeth gwasanaethau oedolion Bro Morgannwg, fod y gwariant refeniw ar Bryneithin yn 2011-2012 yn £450,000.
"Doedd 'na ddim gwariant cyfalaf y llynedd," meddai Mr Carver.
"Ond dyw hynny ddim yn golygu y bydd y costau yn aros yr un fath gan mai dim ond preswylydd sydd 'na.
"Fel pob tro, rydym yn adolygu'r trefniadau gofal pan fydd pethau'n newid yn y cartre'.
"Rydym yn parhau i sicrhau fod y cartre'n cwrdd â safonau cofrestru mewn perthynas â lefelau staffio a chynnal a chadw a bydd hynny'n sefyll tra bod unrhyw breswylydd yn parhau yn y cartre'."
Ailasesu
Yn ôl Stuart Egan, dirprwy arweinydd y cyngor, mae'r weinyddiaeth newydd ym Mro Morgannwg - o dan arweiniad Llafur - yn gorfod ailasesu nifer o'r gwasanaethau.
"Bydd y cyngor yn pwyso a mesur cyn gwneud unrhyw benderfyniad, ac yn ystyried yr holl ffeithiau'n ymwneud â dyfodol Bryneithin," meddai.
"Ddylen ni ddim rhuthro penderfyniadau mor bwysig â hyn a bydd angen ystyried yr holl opsiynau yn drwyadl."