Coleman i ofyn barn am Shawcross

  • Cyhoeddwyd
Ryan ShawcrossFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae Ryan Shawcross yn gymwys i chwarae i Gymru a Lloegr

Bydd rheolwr tîm pêl-droed Cymru yn ymgynghori gyda'i gapten cyn gofyn i Ryan Shawcross chwarae i Gymru.

Fe fydd Chris Coleman yn awyddus i glywed barn Aaron Ramsey gan mai Shawcross dorrodd goes Ramsey mewn gêm rhwng Stoke ac Arsenal yn 2010.

Yn fuan wedi'r digwyddiad - roedd Ramsey allan o'r gêm am bron flwyddyn - gwrthododd Ramsey ymgais Shawcross i ymddiheuro.

Yn wreiddiol, roedd Shawcross, 24 oed, wedi mynegi ei ddyhead i chwarae i Loegr ond wedi i Roy Hodgson ei adael allan o garfan Lloegr ar gyfer Euro 2012, mae Coleman yn ystyried gofyn iddo chwarae i Gymru.

Mae'n gymwys gan iddo gael ei addysg yng Nghymru am bum mlynedd.

'Parch mawr'

Mewn cyfweliad gyda phapur newydd, dywedodd Coleman: "Mae Ryan yn chwaraewr da allai gryfhau'r garfan.

"Fe fydda i'n cael sgwrs gydag Aaron gan ei fod yn rhywun yr ydw i'n ei barchu'n fawr - fe yw ein capten ac mae'n chwaraewr pwysig.

"Dydw i ddim am osgoi'r mater gan ei fod yn sensitif."

Mae Coleman yn gobeithio y bydd amddiffynnwr Caerdydd, Ben Turner, a chefnwr Abertawe, Angel Rangel, yn dewis cynrychioli Cymru wrth i'r tîm baratoi ar gyfer gemau rhagbrofol Cwpan y Byd yn 2014.