Jon Gower yw awdur Llyfr Cymraeg y Flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Mewn seremoni arbennig yng Nghaerdydd nos Iau fe gafodd enillwyr Gwobrau Llyfr y Flwyddyn eu hanrhydeddu.
Am y tro cyntaf roedd adrannau yn gystadleuaeth ac felly roedd tri enillydd yn Gymraeg ac yn Saesneg gydag un o'r tri yn cipio'r brif wobr yn y ddwy iaith.
Enillydd y wobr Gymraeg am y ffuglen orau a'r brif wobr oedd Jon Gower am ei nofel Y Storïwr.
Mae'r nofel yn dilyn hynt a helynt Gwydion McGideon, bachgen ifanc sy'n meddu ar ddawn dweud anhygoel, wrth iddo ddilyn trywydd sy'n arwain at ei elyn pennaf.
Y panel beirniadu Cymraeg oedd Dr Jason Walford Davies, Bethan Mair Hughes a Kate Woodward
Roedd Jon Gower, sy'n wreiddiol o Lanelli, yn un o feirniaid y gystadleuaeth i awduron Saesneg yn 2011.
John Morris-Jones (Gwasg Prifysgol Cymru) gan Allan James gipiodd y wobr am y gyfrol orau yn yr adran Ffeithiol Greadigol, a Siarad trwy'i het (Cyhoeddiadau Barddas) gan Karen Owen oedd y gyfrol fuddugol yn yr adran farddoniaeth.
Karen Owen enillodd wobr Barn y Bobl Golwg360 hefyd.
Roedd enillydd pob adran yn derbyn £2,000 yr un a'r awdur buddugol yn derbyn £6,000 yn ychwanegol.
Saesneg
Patrick McGuinness oedd prif enillydd y wobr Saesneg gyda'i nofel a ddaeth yn fuddugol yn y categori Ffuglen, The Last Hundred Days (Seren).
Yn y nofel hon aiff yr awdur â'i ddarllenwyr i Bucharest 1989, byd llawn gormes a llygredd ond sydd yr un pryd yn llawn harddwch ac angerdd.
Richard Gwyn oedd enillydd yr adran Ffeithiol Greadigol yn Saesneg gyda'i gyfrol The Vagabond's Breakfast (Alcemi), a Chynfardd Cenedlaethol Cymru, Gwyneth Lewis, oedd enillydd Gwobr Farddoniaeth Roland Mathias yn Saesneg am ei chyfrol Sparrow Tree (Bloodaxe Books).
Roedd hi'n noson lwyddiannus iawn i feirdd wrth i Philip Gross, cyn-enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn, ddod i'r brig ym mhleidlais Barn y Bobl yn Saesneg, The People's Choice.
'Ystod ehangach'
Y Panel Beirniaid Saesneg eleni oedd Dr Spencer Jordan, Dr Sam Adams a Trezza Azzopardi.
"Mae wedi bod yn braf iawn cael gwobrwyo ystod ehangach o awduron eleni yn dilyn cyflwyno categorïau i'r gystadleuaeth," meddai Lleucu Siencyn, Prif Weithredwr Llenyddiaeth Cymru.
"Hoffwn longyfarch yr holl awduron eraill hefyd. Mae cyrraedd y Rhestr Fer yn gryn gamp ac mae'r cyfrolau gwych ar y rhestr yn adlewyrchu safon uchel y byd cyhoeddi yng Nghymru heddiw."