Perfformiad cyntaf Te Deum Joseph Parry
- Cyhoeddwyd

Ymfudodd Parry i America, i Danville Pensylfania, gyda'i deulu yn 13 oed
Bydd perfformiad cyntaf darn cerddorol gafodd ei gyfansoddi gan Joseph Parry bron i 150 o flynyddoedd yn ôl yn digwydd yn Llundain yn ddiweddarach.
Bydd Te Deum yn cael ei berfformio gan Gorâl Cymru Llundain yn Eglwys Cripplegate ddydd Sadwrn.
Cafodd y geiriau o'r Llyfr Gweddi Cyffredin ei osod i gerddoriaeth gan Joseph Parry pan oedd yn byw yn America yn 1863.
Dywedodd yr arweinydd Edward-Rhys Harry fod y darn wedi cael ei anghofio tra bod tonau fel Myfanwy ac Aberystwyth erbyn hyn yn fyd enwog.
Dim cofnod
Darganfu Mr Harry Te Deum wrth iddo wneud ymchwil i wreiddiau'r traddodiad corâl yng Ngholeg Cerdd a Drama, Caerdydd.
"Gwnes i ddarganfod y darn oedd yn rhan o gasgliad o lawysgrifau gafodd eu cwblhau gan Joseph Parry yn Pennsylvania ym 1863.
"Does dim cofnod o'r Te Deum yn cael ei berfformio unrhyw le yn y byd o'r blaen, yn ôl Mr Harry.
Mae'r perfformiad yn rhan o ben-blwydd 30 oed y corâl, ac yn ôl ei llywydd, cyn arweinydd y Blaid Lafur, yr Arglwydd Kinnock, ni allan nhw wedi dewis gwell darn.
"Rwy'n sicr bydd y darn yn cynnwys cyseiniant arferol Parry a bydd y corâl yn gwneud eu gorau glas," meddai.
Athro cyntaf
Ganed Joseph Parry ym Merthyr yn 1841.
Ymfudodd i America, i Danville Pennsylvania, gyda'i deulu yn 13 oed ond dychwelodd i Gymru sawl tro.
Yn 1872, fe symudodd i Aberystwyth ac ef oedd Athro Cerdd cynta'r Coleg yno.
Fe fu'n byw'n gyntaf mewn tŷ ar waelod Allt Constitution a gosodwyd cofeb las yno yn ddiweddarach er cof amdano.
Fe arhosodd yn Aberystwyth o 1873 i 1877 ac fe enwyd y fan lle y gweithiai, sef neuadd gerddoriaeth y Brifysgol, ar ei ôl.
Ar ôl gadael Aberystwyth, fe dderbyniodd ddoethuriaeth gerdd o Gaergrawnt yn 1878. Bu'n dysgu hefyd yng Ngholeg Prifysgol Caerdydd o 1888 tan 1903.
Ysgrifennodd dros 300 o operâu ac anthemau a darnau piano a darnau corawl a dros 400 o emyn donau.
Bu farw yn 1903 ym Mhenarth ac fe'i claddwyd ym mynwent Eglwys Awstin Sant yno.