Gweindiog Iechyd yn ennill pleidlais o ddiffyg hyder

  • Cyhoeddwyd
Y Gweinidog Iechyd Lesley GriffithssFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,

Colli wnaeth y gwrthbleidiau y bleidlais o ddiffyg hyder yn y gweinidog iechyd

Methu wnaeth ymgais y gwrthbleidiau yn y Cynulliad Cenedlaethol i ennill pleidlais o ddiffyg hyder yn y Gweinidog Iechyd.

Roedd y gwrthbleidiau wedi cyflwyno'r cynnig oherwydd pryderon am annibyniaeth adroddiad.

Cyn y bleidlais roedd Lesley Griffiths wedi ymddangos o flaen un o bwyllgorau'r Cynulliad.

Roedd nifer yn parhau i ddadlau nad oedd adroddiad ar y gwasanaeth iechyd a luniwyd gan academydd yn un annibynnol.

Fe wnaeth 29 bleidleisio yn erbyn a 28 o blaid.

Wrth roi tystiolaeth ddydd Mercher fe wnaeth Yr Athro Marcus Longley o Brifysgol Morgannwg, wadu honiadau ei fod wedi "gweithio law yn llaw" â gweision sifil.

Mynnodd bod ei ganfyddiadau yn "annibynnol".

'Safbwynt meddygol'

Roedd y gwrthbleidiau yn anfodlon bod Mrs Griffiths wedi dweud, pan gafodd yr adroddiad ei gyhoeddi fis Mai ei fod yn "annibynnol" a fyddai'n cael ei ddefnyddio ar gyfer newidiadau mawr i'r Gwasanaeth Iechyd.

Mynnodd bod yr adroddiad wedi ei ysgrifennu o safbwynt meddygol nid gwleidyddol.

Dywedodd Mrs Griffiths wrth y pwyllgor ei bod yn "hollol briodol i'm swyddogion ymwneud â'r Athro Longley. Roeddwn i'n gwybod eu bod yn gwneud hynny".

"Roedd yn hollol arferol ond doeddwn i ddim yn goruchwylio hynny.

"Wnes i ddim dylanwadu ac ni wnaeth fy swyddogion i chwaith".

Wedi'r bleidlais dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr ar iechyd, Darren Millar, bod cwestiynau o hyd am y gweinidog ac nad oedd ei "pherfformiad yn un oedd yn argyhoeddi".

"Roedd lot o'r atebion yn gwrthddweud y dystiolaeth.

"Mae'n siomedig bod y cynnig ar y cyd gyda'r ddwy wrthblaid arall wedi methu er gwaetha pryderon trawsbleidiol."

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru, Elin Jones, bod Mrs Griffiths wedi methu'r cyfle i glirio ei henw wrth ymddangos o flaen y pwyllgor.

Absennol

"Mae'n glir o ohebiaeth y llywodraeth, y byrddau iechyd a chonffederasiwn y Gwasanaeth Iechyd chwarae eu rhan sylweddol wrth lunio'r adroddiad ar ad-drefnu ysbytai.

"Er hynny fe wnaeth y Gweinidog wadu hyn.

"Mae'r Gweinidog wedi goroesi pleidlais o drwch blewyn a nawr mae angen iddi gymryd y cyfrifoldeb am y penderfyniadau gwleidyddol y mae hi'n atebol amdanyn nhw."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Lafur Cymru bod yr hyn a ddigwyddodd yn dangos bod Plaid Cymru yn was bach i'r Ceidwadwyr.

"Mae'n glir nawr beth oedd Leanne Wood yn ei feddwl rhai wythnosau yn ôl pan siaradodd am "ddewis amgen i Gymru unedig".

"Mae ei dewis amgen yn golygu gweithio mewn clymblaid gyda'r Ceidwadwyr....fydd pobl Cymru ddim yn anghofio'r brad yma."

Doedd Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Aelod Cynulliad Plaid Cymru Dwyfor Meirionnydd, ddim yn bresennol yn y Siambr ar gyfer y bleidlais.

Dywedodd wrth y BBC: "Dwi'n meddwl ei bod o'n hen bryd i ni dyfu i fyny fel plaid ac i gymryd safbwynt mwy adeiladol ynglŷn â'n gwleidyddiaeth na jyst galw am bleidlais o ddiffyg hyder a bod yn gŵn bach neu'n ail feiolin i'r Ceidwadwyr ...

"Dyna sy'n mynd o dan fy nghroen i fwya'."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol