Dafydd Elis-Thomas yn colli'r chwip
- Cyhoeddwyd
Mae Aelod Cynulliad Plaid Cymru, Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, wedi colli chwip ei blaid.
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru na wnaeth "aelod o grŵp Plaid Cymru yn y Cynulliad Cenedlaethol bleidleisio yn y Senedd," hynny yw yn y bleidlais diffyg hyder yn y Gweinidog Iechyd.
Yn ôl y blaid, ni roddodd aelod Dwyfor Meirionnydd "reswm digonol am ei absenoldeb".
"O ganlyniad, mae'r chwip wedi'i thynnu'n ôl dros dro oddi wrth Dafydd Elis-Thomas cyn proses fewnol."
'Tyfu i fyny'
Yr un diwrnod roedd yn llywyddu seremoni raddio ym Mhrifysgol Bangor. Fe yw'r Canghellor.
Yn gynharach yn y dydd dywedodd wrth BBC Cymru: "Dwi'n meddwl ei bod o'n hen bryd i ni dyfu i fyny fel plaid ac i gymryd safbwynt mwy adeiladol ynglŷn â'n gwleidyddiaeth na jyst galw am bleidlais o ddiffyg hyder a bod yn gŵn bach neu'n ail feiolin i'r Ceidwadwyr.
"Dyna sy'n mynd o dan fy nghroen i fwya'."
Colli'r bleidlais o ddiffyg hyder yn Lesley Griffith wnaeth y gwrthbleidiau o 29-28.
Dywedodd yr Arglwydd Elis Thomas y byddai'n dadlau ei achos gerbron gwrandawiad disgyblu'r blaid.
"Byddaf yn dadlau nad oeddwn yn absennol heb reswm," meddai.
Bydd Plaid Cymru'n sefydlu panel ymchwilio a dywedodd arweinydd y blaid, Leanne Wood, nad oedd am ddweud unrhywbeth fyddai'n rhagfarnu'r canlyniad.
'Sosialydd da'
Dywedodd AC Llafur Llanelli, Keith Davies, wrth raglen CF99 BBC Cymru y byddai'n croesawu Dafydd Elis Thomas i rengoedd ei blaid.
"Mae e'n Sosialydd da iawn," meddai.
Dywedodd Jonathan Edwards, AS Plaid Cymru dros Ddwyrain Caerfyrddin a Dinefwr, fod rhaid aros i weld beth fyddai'n digwydd yn y broses ddisgyblu.
"Mae Dafydd Elis-Thomas yn athrylith o wleidydd," meddai.
"Mae gen i barch enfawr iddo fe ac mae ganddo rôl bwysig o hyd o fewn Plaid Cymru."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd18 Gorffennaf 2012