Y pedwerydd diwrnod: Manylion y Cymry yn y Gemau Olympaidd
- Cyhoeddwyd
Dydd Mawrth mae 'na nifer o Gymry yn cymryd rhan yn y Gemau Olympaidd.
Mae BBC Cymru yn cadw golwg ar y cyfan ac yn dod â'r newyddion diweddara i chi.
CODI PWYSAU
Fe wnaeth Gareth Evans gofnodi ei bwysau gorau a dod yn gyfartal gyda record Cymru wrth iddo ymddangos yn y Gemau Olympaidd am y tro cyntaf. O drwch blewyn fe fethodd â thorri record Prydain sy'n sefyll ers 10 mlynedd yn y categori 69kg wrth fethu yn ei ymgais o 133kg yn y codi cipio (snatch). Yn yr ail gategori dau gymal (clean and jerk) fe lwyddodd ar 158kg cyn methu codi 160kg.
Gorffennodd Evans yn wythfed yn ei grŵp gydag 14 o godwyr eraill i gystadlu nos Fawrth, ond roedd ei gyfanswm o 288kg ymhell uwchlaw ei gyfanswm gorau erioed o 277kg. Tenau yw gobeithion Evans am fedal, ond wrth gadw'i berfformiad gorau erioed ar gyfer Gemau Llundain, gall fod yn falch iawn o'i berfformiad.
NOFIO
Mae Jemma Lowe o Abertawe wedi llwyddo i sicrhau ei lle yn rownd derfynol y 200m dull pili pala yn y Y Ganolfan Campau Dŵr. Llwyddodd i sicrhau yr wythfed safle ar ôl gorffen yn bumed yn y ras go-gynderfynol mewn amser o 2 funud 07:37 eiliad. Enillwyd y ras honno gan Kathleen Hersey o'r Unol Daleithiau mewn amser o 2 funud 05.90 eiliad. Fe fydd y rownd derfynol nos Fercher.
Llwyddodd Lowe i ddod yn ail yn ei ras rhagbrawf gydag amser o 2 funud 7.64 eiliad. Dros y pedwar rhagbrawf roedd Lowe yn drydydd o ran amser y tu ôl i Hersey o America oedd ar y big wedi amser o 2 funud 6.41 eiliad.
Doedd Ieuan Lloyd ddim yn rhan o'r tîm cyfnewid 4x200m dull rhydd ar gyfer y rhagbrawf bore Mawrth er iddo gael ei gynnwys yn y rownd derfynol. Ond chweched oedd Prydain yn y rownd derfynol. Gorffennodd y tîm mewn amser o 7 funud 09:33 eiliad gyda Lloyd o Benarth yn nofio'r ail gymal.
Ond bydd y ras yn cael ei chofio fel yr un lle llwyddodd yr Americanwr Michael Phelps i ennill ei 19eg medal Olympaidd. America oedd yn gyntaf (6:59:70) , yna Ffrainc yn ail a China yn drydydd. Ar ♫7l y ras dywedodd Lloyd bod y profiad wedi bod yn un arbennig.
"Roedd y tîm wedi gwneud eu gorau, roedd 'na obaith am fedal ond chweched oedd ein gorau. Dwi wedi breuddwydio am flynyddoedd am hyn ac i fod yn rhan o'r tîm yn ifanc gobeithio bydd cyfle arall. Mae Michael Phelps yn nofiwr anhygoel ac mae gen i edmygedd ohono. Roedd bod yn yr un ras a fo yn rhywbeth arbennig iawn."
RHWYFO
Roedd Chris Bartley yn rhan o dîm pedwarawd ysgafn Prydain enillodd eu rownd gynderfynol yn Eton Dorney. Bydd y pedwar yn symud ymlaen i'r rownd derfynol ddydd Iau, a'r tebygrwydd yw mai ras rhwng Prydain ac Awstralia fydd hi am y fedal aur, er i'r Awstraliaid gael rownd gynderfynol siomedig. Prydain oedd yr unig griw o'r 12 i orffen gydag amser o dan chwe munud - 5:59.68 i fod yn fanwl - ac roedd y Swistir a'r Iseldiroedd yn dynn ar eu sodlau.
Roedd Victoria Thornley yn cystadlu yn y ras ail gyfle rhwyfo Merched (8) yn Eton Dorney. Llwyddodd y tîm i orffern yn bedwerydd mewn amser o 6 munud 21.58 eiliad. Fe fyddan nhw yn rownd derfynol ddydd Iau. Yr Iseldiroedd wnaeth orffen yn gyntaf yn y ras gydag amser o 6 munud a 15.36 eiliad.
HOCI
Roedd y Gymraes Sarah Thomas yn rhan o dîm Prydain oedd yn fuddugol yn erbyn De Korea yn Grŵp A brynhawn Mawrth. Er i Korea fynd ar ei hôl hi yn gynnar, fe ddaethon nhw yn ôl i'w gwneud hi'n 3-3 ar un cyfnod cyn i ddwy gôl hwyr roi buddugoliaeth i Brydain o 5-3.
PÊL-DROED
Cafodd y cefnogwyr a fentrodd i Stadiwm Y Mileniwm yng Nghaerdydd i weld y gêm rhwng tîm merched Japan a thîm merched De Affrica yn Grŵp F siom brynhawn Mawrth, gyda'r gêm yn gorffen yn ddi-sgor. Ond roedd y canlyniad yn ddigon i sicrhau lle Japan yn y rownd nesaf, ac mae'n bosib y byddan nhw'n wynebu Team GB gan ddibynnu ar ganlyniad nos Fawrth rhwng Prydain a Brasil.