'Braint anhygoel' chwarae pêl-droed cerdded yng Nghwpan y Byd

Lowri GwilymFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Lowri Gwilym fod pêl-droed cerdded yn "fwy na phêl-droed, mae o'n rhwydwaith gymdeithasol gefnogol"

  • Cyhoeddwyd

"Braint anhygoel" fydd cael cyfle i chwarae yng Nghwpan Cenhedloedd y Byd, meddai aelod o dîm pêl-droed cerdded Cymru.

Yn wreiddiol o Lanuwchllyn ond bellach yn byw yng Nghaerdydd, bydd Lowri Gwilym yn cynrychioli tîm 50au Cymru yn y gystadleuaeth yn Sbaen yr wythnos nesaf.

Mae'r tîm iau, sydd yn eu 40au, eisoes wedi mynd i dde Sbaen i gystadlu, gyda Lowri a'r criw yn cwblhau eu paratoadau.

Mae pêl-droed cerdded yn debyg iawn i bêl-droed arferol, ond nad oes modd rhedeg na thaclo o'r ochr.

Aelodau timau 50au a 60au CymruFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Rhai o aelodau timau 50au a 60au Cymru wedi eu sesiwn ymarfer olaf cyn mynd i Torrevieja

Wrth i'r gystadleuaeth gychwyn yr wythnos hon yn Torrevieja – dywedodd Lowri wrth Cymru Fyw fod tri thîm o ferched yn mynd.

"Mae'r tȋm merched yn eu 40au wedi bod yno wythnos yma. Dwi'n chwarae i'r tîm yn eu 50au a byddwn ni a'r tîm merched yn eu 60au yno wythnos nesa," meddai.

"Ti ddim yn cael rhedeg ydi'r prif beth o ran rheolau'r gêm, ti ddim yn cael taclo o'r ochr na'r cefn a chwech o chwaraewyr sydd ar y cae i bob tȋm ar yr un pryd.

"Mae'r gemau yn amrywio o ran hyd. Fydd gemau Cwpan y Byd yn 40 munud yr un, ond ma' hi'n dibynnu ar y gystadleuaeth.

"Dwi'n chware i dîm Caerdydd yng Nghynghrair Cymru – ma' rheiny'n 12 munud yr un - sy'n dipyn byrrach."

'Eithaf hyderus'

"Dwi am gael y fraint o gario'r fflag yn seremoni agoriadol y 50au," ychwanegodd.

"Byddwn yn hedfan yn gynnar fore Llun am bum diwrnod, hefo gemau dydd Mawrth, Mercher a dydd Iau.

"Bydd gemau'r semis a'r ffeinal ar y dydd Gwener."

Eglurodd y bydd ei thîm hi yn chwarae'n erbyn Awstralia, Lloegr, Sbaen, Canada, Ffrainc, a Hong Kong.

"Ma' Lloegr wastad yn dîm cryf," meddai Lowri, ond ychwanegodd eu bod hwythau hefyd yn eithaf hyderus - yn dilyn ymarfer bob penwythnos yn arwain at y gystadleuaeth.

Lowri GwilymFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

"Doedd 'na ddim cyfleoedd i fi chwarae pêl-droed ar ôl troi yn 13/14 oed," medd Lowri Gwilym

'Cymru Amdani Hi' ydi enw'r timau merched fydd yn cynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth yma, esboniodd Lowri.

"Mi 'nath 'Cymru Amdani Hi' gychwyn dwy flynedd yn ôl gyda'r pwyslais ar roi cyfle i bawb - ma'n r'wbeth cynhwysol iawn.

"Ma' rhai ohona' ni wedi chwarae o'r blaen, ond dydi pawb heb. Mae o'n fwy na phêl-droed, mae o'n rhwydwaith gymdeithasol gefnogol."

'Doedd 'na ddim cyfleoedd'

Dywedodd Lowri mai prin oedd y cyfleoedd iddi chwarae pêl-droed fel merch ifanc yng Nghymru.

"Mi o'n i'n chwarae pêl-droed efo'r bechgyn yn Llanuwchllyn ar gae Ysgol O M Edwards bob dydd Sadwrn.

"Ond yn anffodus, doedd na ddim cyfleoedd i fi ar ôl troi yn 13/14 oed – doedd 'na ddim strwythur oed merched i'w gael yn y cyfnod hwnnw.

"Nes i ddim chwarae wedyn tan i fi fynd i'r brifysgol ac ailddechrau chwarae yn 18. Dwi wedi bod yn chwarae am dipyn o gyfnodau i dimau gwahanol ers hynny."

Ffwtbol cerddedFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Mae pêl-droed cerdded yn debyg iawn i bêl-droed arferol, ond nad oes modd rhedeg na thaclo o'r ochr

Bellach mae Lowri yn byw yng Nghaerdydd ac mae tymor tîm y ddinas newydd gychwyn.

Mae hi'n mwynhau cael y cyfle i gynrychioli Caerdydd yng nghynghrair pêl-droed cerdded merched Cymru unwaith y mis.

"Mae'n gamp boblogaidd iawn ar y funud, mae'n tyfu'n sydyn ac mae yna dipyn o gyfleoedd i noddi a chodi proffil y gêm.

"Mae hi'n braf cael y cyfle i chwarae eto ar lefel clwb a dwi wedi bod yn hynod o lwcus i allu chwarae ar y lefel genedlaethol gyda 'Cymru Amdani Hi'."

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.