Cynnal gwasanaeth i goffau'r rhai a fu farw ar fynyddoedd Eryri

Tîm Achub Mynydd Llanberis wrth eu gwaith ar Grib Goch
- Cyhoeddwyd
Bydd gwasanaeth arbennig yn cael ei gynnal ddydd Sul i gofio'r cannoedd sydd wedi colli'u bywydau ar gopaon Eryri dros y blynyddoedd.
Yn cael ei gynnal yn Eglwys Sant Peris, Nant Peris, bydd 'Cysgod yr Wyddfa' yn cael ei arwain gan y Parchedig Naomi Starkey ac wedi ei drefnu yn dilyn cyfres o farwolaethau ar y mynyddoedd yn ddiweddar.
Ac er mai dyma'r tro cyntaf i wasanaeth o'r fath gael ei gynnal, dywedodd y Parchedig Starkey y gall ddod yn ddigwyddiad blynyddol yn y dyfodol.
"Ar ôl byw ym Mro Eryri ers dros flwyddyn, rydw i wedi dod i sylweddoli peryglon yn ogystal â harddwch y dirwedd anhygoel," meddai.
"Mae hi mor ingol clywed am bobl sy'n dod am antur yn y mynyddoedd a sut mae'r antur honno weithiau'n arwain at anaf difrifol neu farwolaeth."

Bydd Cysgod yr Wyddfa yn cael ei arwain yn Eglwys Nant Peris gan y Parchedig Naomi Starkey
Yn ystod y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf mae sawl marwolaeth wedi bod ar yr Wyddfa a'r llwybrau cyfagos, gan gynnwys digwyddiadau ar Grib Goch ac ar odre'r bryniau a'r afonydd o amgylch y mynydd.
Ychwanegodd y Parchedig Naomi fod y penderfyniad i drefnu'r digwyddiad wedi dod yn rhywbeth personol, ar ôl i'w mab 23 oed gael ei anafu'n ddifrifol mewn damwain beic yr haf hwn.
"Fel mam yn ogystal â ficer, roeddwn i eisiau gwneud rhywbeth i nodi'r colledion diweddar hynny a'r nifer fawr o rai eraill dros y blynyddoedd."
Dywedodd hefyd fod croeso i unrhyw un fynychu, gan gynnwys teuluoedd y rhai sydd wedi colli eu bywydau ac aelodau o'r gymuned achub mynydd.

Mae Eglwys Sant Peris, Nant Peris, yng nghysgod Crib Goch
Bydd yna gasgliad ar gyfer Tîm Achub Mynydd Llanberis, y tîm achub prysuraf yn y DU, a ymatebodd i dros 300 o alwadau yn 2025 gan gynnwys 32 galwad yn ystod mis Medi.
"Rwyf eisiau darparu lle i alaru a chofio mewn lle cysegredig yng nghanol Eryri," ychwanegodd Y Parchedig Starkey.
Bydd y gwasanaeth yn cael ei gynnal yn Eglwys Nant Peris ddydd Sul, 26 Hydref rhwng 17.30 a 18.00.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref

- Cyhoeddwyd26 Chwefror

- Cyhoeddwyd19 Rhagfyr 2023
