'Anymarferol' lledu'r A55

  • Cyhoeddwyd
Traffic queuing on the A55Ffynhonnell y llun, Melfyn Clwyd Roberts
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd nifer o yrwyr eu dal am oriau wedi'r digwyddiad ger Abergwyngregyn

Mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod galwad i ledu'r A55 gan ddweud nad yw cynllun o'r fath yn "ymarferol".

Cafodd y ffordd ei chau am dros 12 awr ddydd Mercher wedi i lori droi drosodd ger Abergwyngregyn yng Ngwynedd gan arllwys tua 1,000 o litrau i ddisel ar y ffordd.

Mae'r gweinidog trafnidiaeth, Carl Sargeant, wedi diolch i fodurwyr am eu hamynedd yn ystod y digwyddiad, a welodd dagfeydd drwg mewn nifer o drefi fel Bethesda, Betws-y-Coed a Llanrwst wrth i geir gael eu dargyfeirio o safle'r ddamwain.

Roedd Clwb Busnes Gogledd Cymru wedi rhybuddio am effaith economaidd digwyddiadau fel hyn ac wedi galw am ledu'r A55 i fod yn ffordd chwe lôn er mwyn osgoi anhrefn tebyg yn y dyfodol.

'Dim dewis'

Ffynhonnell y llun, Jacob Williams via UGC, OK'd to use
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y lori yn cario 25 tunnell o gig

Dywedodd cadeirydd y clwb, David Williams, wrth BBC Cymru: "Mae'n anffodus iawn, Rwy'n siŵr bod miloedd o oriau dynol wedi eu colli i economi gogledd Cymru, ac mae hyn yn broblem fawr.

"Mae'r ffordd sy'n cael ei defnyddio'n helaeth gan deithwyr a gan fasnach gan mai dyma'r unig brif ffordd ar hyd gogledd Cymru, a phan mae'r ffordd ar gau does dim dewis arall."

Bu'r ddwy lon o'r A55 i'r ddau gyfeiriad am gyfnod yn dilyn y ddamwain am 7:50 fore Mercher. Cafodd y ffordd i'r gorllewin ei hailagor am 12:30pm, ond bu'r lon ddwyreiniol ar gau tan 8:30pm.

Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai darparu llain galed neu ymestyn yr A55 i fod yn ffordd chwe lôn yn golygu lledu'r ffordd ar ei hyd, a dywedodd llefarydd y byddai cyfyngiadau megis twneli, pontydd ac ati yn gwneud hynny yn anymarferol.

'Gwerthfawrogiad'

Meddai'r llefarydd: "Byddai lledu'r ffordd yn golygu prynu tir ac fe fyddai'n gostus dros ben. O ystyried hynny yn yr hinsawdd economaidd anodd presennol, nid yw hynny'n cael ei ystyried yn ddewis posibl."

Wrth ymateb i gyhuddiadau ei bod wedi cymryd llawer gormod o amser i ailagor y ffordd, dywedodd Mr Sargeant bod clirio safle'r ddamwain wedi golygu defnyddio craen i symud y lori, dadlwytho 25 tunnell o gig o'r lori a chlirio'r tanwydd oedd wedi arllwys ar y ffordd.

Dywedodd: "Hoffwn fynegi fy ngwerthfawrogiad i broffesiynoldeb a gwaith caled pawb oedd yn rhan o'r gwaith o ailagor yr A55, a hoffwn sicrhau pobl y byddwn yn ymchwilio i weld a oes gwersi i'w dysgu o'r digwyddiad hwn.

"Hoffwn ddiolch hefyd i'r rhai gafodd eu dal yn y tagfeydd anochel am eu hamynedd, ac i'r cymunedau cyfagos a gafodd eu heffeithio gan y tagfeydd oherwydd dargyfeirio'r traffig."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol