Leila yn casglu alawon Iolo Morganwg

  • Cyhoeddwyd
Leila Salisbury sydd wedi golygu y llyfr
Disgrifiad o’r llun,

Mae Leila Salisbury wedi astudio gwaith Iolo ar gyfer ei gradd MPhil

Mae llyfr sy'n cynnwys alawon gwerin a gasglwyd gan Iolo Morganwg yn cael ei gyhoeddi er Faes yr Eisteddfod.

Fe'u detholwyd a'u golygu gan Leila Salisbury o Langynog ger Caerfyrddin.

Bu Iolo, yr enwocaf o feibion bro'r Eisteddfod, yn cofnodi'n ddyfal alawon gwerin Bro Morgannwg rhwng 1795 ac 1806.

Eleni, dafliad carreg o'r lle y'i ganwyd, mae casgliad o'r alawon hynny yn cael ei gyhoeddi gan Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru gyda rhagymadrodd a nodiadau gan Leila.

Dywedodd Leila i Iolo gofnodi 88 o alawon gwerin i gyd nifer ohonyn nhw yn ymwneud â dathliadau tymhorol fel y Calan a'r Nadolig.

Caneuon serch

Yr oedd eraill yn ganeuon serch.

Mae'n eu disgrifio fel caneuon galwedigaethol fel y rhai hynny fyddai'n cael eu canu gan weision fferm yn gyrru ychain a ddefnyddiwyd i aredig y tir ac yn y blaen.

Canwyd, yn rhannol i basio'r amser ac yn rhannol er mwyn cymell yr ychain.

Yr enw a roddwyd ar y rhai a fyddai'n canu oedd 'cathreiwyr'.

Dywed Leila fod Iolo yn gasglwr pwysig.

"Cyfrifir Iolo heddiw fel casglwr alawon gwerin cyntaf Cymru.

"Ef oedd y cyntaf i fynd ati i gofnodi alawon gwerin ei gynefin a'u rhoi ar bapur, y cyntaf i greu cofnod o gyd-destun cymdeithasol yr alawon a'r cyntaf i sylweddoli gwerth y traddodiad llafar, bregus hwnnw, a oedd ar y pryd yn bodoli ar dafod leferydd yn unig," meddai.

Arweiniodd ei waith at adfywiad mewn cerddoriaeth werin Gymreig yn y 19eg ac wedyn.

Er wedi ei geni yng Nghaerdydd, yn Llangynog ger Caerfyrddin y magwyd Leila Salisbury ac fe dderbyniodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd y Dderwen ac yn Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin cyn mynd i Brifysgol Bangor lle graddiodd mewn Cymraeg a Cherddoriaeth.

Yno y bu'n astudio alawon gwerin Iolo Morganwg ar gyfer ei gradd MPhil, sy'n sail i'r gyfrol a gyhoeddir ddydd Mawrth.

Mae'r gyfrol yn cael ei lansio mewn dau ddigwyddiad, Yn y Stiwdio yn ystod Darlith Goffa Lady Amy Parry-Williams a draddodir gan Leila am 11am ac yn Nhŷ Gwerin rhwng 3-4pm lle bydd cerddorion a chantorion gwerin yn perfformio rhai o'r alawon o'r gyfrol.