Penseiri ysgol yn ennill Medal Aur am Bensaerniaeth
- Cyhoeddwyd
Mae'r penseiri a gynlluniodd Ysgol Gatholig yr Archesgob McGrath ger Pen-y-bont ar Ogwr wedi ennill y Fedal Aur am Bensaernїaeth.
Derbyniodd cwmni o Gaerdydd, HLM Architects, y fedal wrth i'r beirniaid, ddweud ei fod yn "ddatganiad clir o sut y gall cynllunio da helpu i adeiladu cymuned addysgol ardderchog".
Mae Comisiwn Dylunio Cymru yn cefnogi'r Fedal Aur am Bensaernïaeth mewn partneriaeth gyda'r Eisteddfod â'r Plac Teilyngdod a'r Ysgoloriaeth Bensaernïaeth, a roddir mewn cydweithrediad â Chymdeithas Frenhinol Penseiri yng Nghymru.
Fe wnaeth y cwmni gwblhau y gwaith rhwng 2009-2012, ac wedi'u hargymell i'r Eisteddfod oherwydd safon arobryn y bensaernïaeth.
Llwyddodd HLM Architects i guro bron i 30 o geisiadau eraill gan 22 o gwmnïau ar draws y DU i ennill y wobr.
Syml
"O'r eiliad rydych yn cyrraedd mynedfa'r ysgol, mae'n amlwg bod rhyngweithio cymdeithasol ac integreiddiad dynol wedi'u crefftio i greu ymdeimlad o gyd-fodoli yn yr ysgol," meddai un o'r beirniaid, y pensaer Rhian Thomas, Cydymaith Cynllunio yn Uned Ymchwil Cynllunio yn Ysgol Bensaernїaeth Cymru.
"Mae'r bensaernïaeth yn cynnig cyfleoedd i'r myfyrwyr fynegi'u hunain, i fod yn ystyriol o eraill ac i ddysgu mewn ffyrdd newydd a diddorol.
"Mae ardaloedd distawach o amgylch y grisiau canol, gan ddefnyddio gofod mewn ffordd glyfar ond syml. Mae'r ardaloedd dysgu eraill yn wahanol i gonfensiwn yr hen goridorau traddodiadol, ac yn creu clystyrau dysgu. Mae pob dosbarth yn wynebu parth rhannu, sy'n gyfle i blant o wahanol ddosbarthiadau ddysgu a rhyngweithio ar unwaith.
"Yn olaf, mae mannau myfyrio, sy'n gyfle i'r myfyrwyr arafu a meddwl, rhywbeth sy'n cael ei anghofio yn llawer rhy aml yn ein cymdeithas brysur heddiw."