Dai Greene yn gorffen yn bedwerydd
- Cyhoeddwyd
Daeth y Cymro Dai Greene yn bedwerydd yn y ras 400 m dros y clwydi yn y Gemau Olympaidd yn Llundain.
Gorffennodd Greene, oedd yn rhedeg yn y drydedd lôn mewn 48:24.
Enillwyd y ras gan Felix Sanchez (47.63) o Dominica, cyn bencampwr Olympaidd, yn ei amser gorau y tymor hwn.
Yr Americanwr Michael Tinsley oedd yn ail ( 47:91) gyda Javier Culson (48:10) yn drydydd.
Cafodd Greene ddechrau araf i'r ras ond gorffenodd yn gryf.
Hwn oedd ei ymddangosiad cyntaf yn y Gemau Olympaidd ac ar ôl y ras dywedodd ei fod yn teimlo yn flinedig.
"Rwyn siomedig rwy'n teimlo yn flinedig, ond roedd yna well strwythur i'm ras heno nad ras gynderfynol nos Sadwrn."
Oherwydd anaf i'w benglin yn gynharach y flwyddyn fe amharwyd ar ei baratoadau ar gyfer y gemau.
Bu'r rhedwr 26 oed o Lanelli yn ffodus i fod yn y rownd derfynol ar ôl gorffen yn y pedwerydd safle yn y rownd gynderfynol.
Dim ond y ddau gyntaf yn y ras gynderfynol oedd yn sicr o le yn y ffeinal.
Ond roedd amser Green, pencampwr y byd 400 m dros y clwydi, o 48.19 eiliad yn golygu ei fod yn y ras derfynol fel un o'r collwyr cyflymaf.
Dim ond Felix Sanchez (47.76), Dominica, a Javier Culson (47.78), Puerto Rico, oedd wedi rhedeg yn gynt na Greene (47.84) y tymor hwn.
Cyn y ras dywedodd ei dad Steve, fod ei fab yn hynod siomedig ar ôl nos Sadwrn, ond ei fod "yn gobeithio gwneud yn iawn am hynny heno."
Ychwanegodd ei gariad Sian Davies, fod Dai yn hynod siomedig nos Sadwrn ond ei fod yn llawn hyder yn mynd i'r ras heno.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2012