Gorfoledd a siom i'r ddau focsiwr
- Cyhoeddwyd
Roedd siom a thorcalon i ddau Gymro yn arena Excel yn y Gemau Olympaidd yn Llundain nos Fawrth.
Fe fydd Fred Evans yn dychwelyd i'w gartref yn Llaneirwg, Caerdydd, gyda medal wedi iddo ennill ei ornest yn rownd yr wyth olaf o drwch blewyn.
Gan fod Evans yn gyfartal ar bwyntiau gyda Custio Clayton o Ganada ar ddiwedd tair rownd, roedd rhaid adolygu marciau'r beirniaid ac ar ôl oedi nerfus Evans oedd yn fuddugol.
Er hynny, bu'n rhaid aros tan oriau mân fore Mercher i gael cadarnhad o hynny wedi i Ganada apelio yn erbyn y penderfyniad - a honni y dylai Evans fod wedi cael ei gosbi yn ystod yr ornest.
Bydd Evans yn bocsio yn rownd gynderfynol y pwysau welter nos Wener.
Llawer gwell
Ond ni fydd Andrew Selby yn ymuno ag ef. Er mai Selby oedd ar frig rhestr detholion y byd ar ddechrau'r Gemau, fe gollodd ei ornest yn rownd yr wyth olaf pwysau plu i Robeisy Ramirez Carranzana o Cuba.
Roedd Selby yn cyfaddef wedi'r ornest bod ei wrthwynebydd yn llawer gwell ar y noson a'i fod yn haeddu ennill.
Yng nghystadlaethau bocsio'r Gemau Olympaidd, mae'r ddau sy'n colli yn y rownd gynderfynol yn derbyn medal efydd. Felly mae Evans yn sicr o fedal.
Ond dywedodd nos Fawrth ei fod yn benderfynol o sicrhau mai aur fyddai lliw'r fedal honno.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Medi 2012
- Cyhoeddwyd14 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2012