Carchar i ymgyrchydd iaith am wrthod talu dirwy
- Cyhoeddwyd
Mae ymgyrchydd iaith wedi cael ei garcharu am 35 diwrnod am wrthod talu dirwy yn ymwneud â phrotest yn erbyn toriadau i gyllid S4C.
Yn wreiddiol roedd Jamie Bevan, 36 oed o Ferthyr Tudful, wedi cael dirwy a dedfryd o saith niwrnod dan glo am dorri mewn i swyddfeydd yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Ogledd Caerdydd, Jonathan Evans, a chwistrellu slogan ar y wal fis Mawrth y llynedd.
Yn ôl mudiad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg, roedd Bevan wedi gwrthod talu'r ddirwy am iddo dderbyn gorchymyn llys uniaith Saesneg.
Daw'r newyddion wedi'r cyhoeddiad am farwolaeth Eileen Beasley, un o'r ymgyrchwyr cyntaf i fynd i'r llys er mwyn cael statws cyfartal i'r Gymraeg.
Roedd 50 o bobl y tu allan i Lys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Llun i gefnogi Bevan.
Annigonol
Dywedodd y tad i bedwar o blant o flaen y llys: "Dros gyfnod o flwyddyn a hanner 'dwi wedi derbyn gwasanaeth Cymraeg tameidiog ac annerbyniol.
"Mae cwynion wedi eu gwneud ac ymddiheuriadau wedi eu derbyn ond parhau mae'r camgymeriadau.
"Dylai fod hawl i unrhyw un sy'n byw yng Nghymru gael gwrandawiad a chymorth cyfreithiol yn gwbl Gymraeg, ac am ddim.
"Nid yw'n ddigonol o bell ffordd derbyn gwrandawiad trwy gyfrwng cyfieithydd.
"Mae siaradwyr Cymraeg dan anfantais enfawr wrth dderbyn gwrandawiad trwy gyfrwng cyfieithydd gan nad ydy cyfieithydd yn galluogi'r unigolyn i gyfathrebu yn uniongyrchol gyda'r ynadon neu'r barnwr.
"Rydw i a fy nghyd-ymgyrchwyr yn talu teyrnged i Eileen Beasley a'i theulu gan addo y byddwn yn dilyn eu hesiampl ac ni fyddwn yn cilio o'r her."