Clwb pêl-droed Llanelli yn wynebu cais dirwyn i ben

  • Cyhoeddwyd
Llanelli yn ennill Cwpan Cymru yn 2011
Disgrifiad o’r llun,

Enillodd Llanelli gwpan Cymru yn 2011

Mae clwb pêl-droed Llanelli yn wynebu cais dirwyn i ben yn yr Uchel Lys.

Cafodd y cais ei wneud gan Gyllid a Thollau Ei Mawrhydi a bydd yn mynd gerbron y llys ddechrau mis Medi.

Dywedodd gweinyddwr y clwb, David Jones, wrth BBC Cymru fod cadeirydd y clwb, Nitin Parekn, wedi rhoi sicrwydd iddo y byddai'r mater wedi ei ddatrys "ymhen 48 awr".

Enillodd Llanelli, sy'n chwarae yn Uwchgynghrair Cymru, gwpan Cymru yn 2011 ac fe ddechreuon nhw'r tymor newydd gyda buddugoliaeth oddi cartref yn erbyn Port Talbot ddydd Sadwrn diwethaf.

Cafodd clwb pêl-droed Castell-nedd ei ddirwyn i ben yn yr Uchel Lys yn Llundain ym mis Mai eleni.

Roedd y clwb yn drydydd yn yr Uwchgynghrair, tu ôl i Fangor a'r Seintiau Newydd y tymor diwethaf.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol