Gwrthod cais i ddirwyn Clwb Pêl-droed Castell-nedd i ben

  • Cyhoeddwyd
Bathodyn Castell-neddFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Mae Castell-nedd yn y trydydd safle yn Uwchgynghrair Cymru

Mae gorchymyn dirwyn i ben yn erbyn Clwb Pêl-droed Castell-nedd wedi ei wrthod.

Fe fydd y tîm sy'n chwarae yn Uwchgynghrair Cymru yn wynebu ail gais yn yr Uchel Lys yn Llundain.

Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi ddygodd y cais cyntaf yn erbyn y clwb oherwydd dyledion treth gwerth £65,000.

Fe dalodd y clwb yr arian.

Ond ers hynny mae gorchymyn arall mewn grym wedi cais i fanc weithredu fel deisebwyr.

Gohirio

Dywedodd cyfreithwyr y clwb nad oedden nhw'n gallu dweud bod arian yn ddyledus neu beidio.

Cafodd yr achos ei ohirio tan Fai 14.

Roedd y Cofrestrydd Nichols wedi cymeradwyo'r ail orchymyn sydd, i bob diben, yn gadael i Fanc Barclays fabwysiadu'r cais dirwyn i ben.

Os bydd hi'n amlwg bod dyledion, gallai'r clwb ddod i ben.

Ar hyn o bryd mae Castell-nedd yn drydydd yn Uwchgynghrair Cymru, dri phwynt y tu ôl i'r Seintiau Newydd sydd ar y brig.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol