Gwaith i adfer Eglwys Santes Dwynwen yn dechrau
- Cyhoeddwyd
Mae gwaith i adfer Eglwys Santes Dwynwen ar Ynys Llanddwyn, Ynys Môn, wedi dechrau.
Yn ystod y chwe wythnos nesaf, dan arweiniad CADW, bydd tywod a llystyfiant yn cael eu clirio oddi ar waliau adfeiliedig yr eglwys er mwyn eu dadorchuddio.
Hefyd, bydd y bwa gogleddol, a gwympodd tua diwedd y 1940au, yn cael ei ailadeiladu.
Yn ogystal, bydd y rwbel a'r tywod sydd y tu mewn i'r eglwys yn cael eu symud ymaith er mwyn arddangos amlinelliad siâp croes yr eglwys yn well.
Dywedodd Graham Williams, Rheolwr Gwarchodfa Natur Genedlaethol Niwbwrch, sy'n gweithio i'r Cyngor Cefn Gwlad, bod y gwaith yn arwain ar warchod "un o safleoedd mwyaf ysbrydol Cymru, gan ei ddiogelu ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol".
Ar y we
"Gan weithio gyda Menter Môn a CADW cafodd asesiad archeolegol ei gomisiynu, ac arweiniodd hwn at y gwaith yma ar eglwys Santes Dwynwen.
"Hefyd bydd cyfleusterau dehongli ar y safle ac ar y we, a gaiff eu rhoi ar waith yn ddiweddarach yn y flwyddyn, yn helpu'r ymwelwyr i werthfawrogi a mwynhau mwy ar bwysigrwydd hanesyddol y safle."
Yn ôl pob tebyg, un o ferched y Brenin Brychan Brycheiniog oedd Santes Dwynwen a fu farw yn y flwyddyn 460OC.
Caiff olion yr eglwys, a welir ar Ynys Llanddwyn, sydd i'w holrhain i'r cyfnod rhwng y 13eg Ganrif a'r 16fed Ganrif, eu priodoli i'r eglwys a sefydlwyd ganddi hi yn yr oesoedd tywyll.
Mae olion yr eglwys, sydd i'w gweld o fewn ffiniau wal gylchog y fynwent, wedi ei chofrestru.
Gellir olrhain y cloddiau pridd i oes y Celtiaid.
Ond maen nhw hefyd yn arddangos nodweddion sy'n perthyn i hanes yr eglwys dros gyfnod o 1,500 o flynyddoedd.