Abertawe 2-2 Sunderland

  • Cyhoeddwyd
Steven Fletcher yn dathlu sgorio i SunderlandFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Steven Fletcher yn dathlu sgorio i Sunderland

Sgoriodd Steven Fletcher ddwywaith yn ei gêm gyntaf dros Sunderland i ddod â dechreuad perffaith Abertawe i'r tymor i ben.

Manteisiodd ar gamgymeriad gan Ashley Williams gan lywio'r bêl yn gelfydd i gornel y rhwyd wedi 39 munud.

Ymatebodd yr Elyrch yn dda gyda Wayne Routledge yn ergydio i'r rhwyd o 10 llath wedi 45 munud, ond fe wnaeth amddiffyn gwan gan y tîm cartref adael i Fletcher droedio'r bêl i mewn wrth y postyn pellaf ychydig cyn yr egwyl.

Fe wnaeth peniad grymus Michu ddod â'r Elyrch yn gyfartal wedi 65 munud, ei bedwaredd gôl yn ei drydedd gêm.

Sicrhawyd y pwynt er gwaetha'r ffaith i Chico gael ei anfon o'r cae 20 munud o'r diwedd am ddefnydd peryglus o'i droed yn yr awyr.

Ond fe fydd rheolwr Abertawe, Michael Laudrup yn ogystal â rheolwr Cymru, Chris Coleman, yn poeni am yr anaf i'r cefnwr 23 oed Neil Taylor.

Cafodd ei gludo o'r maes ar ôl torri ei bigwrn.

Fe fydd nawr yn colli gweddill tymor Abertawe, ac fe fydd Cymru'n gweld ei eisiau yng ngemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014, yn dechrau gydag ymweliad Gwlad Belg ar Fedi 7 cyn teithio i wynebu Serbia yn Belgrade ar Fedi 11

Neil Taylor yn gorfod derbyn aer oherwydd y boenFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Neil Taylor yn gorfod derbyn aer oherwydd y boen