Llys yn clywed am 'anallu anhygoel'

  • Cyhoeddwyd
Aamir SiddiqiFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Aamir Siddiqi ei drywanu yn ei gartref yn 2010

Mae Llys y Goron Abertawe wedi clywed am ddau lofrudd gafodd eu talu i ladd ond a aeth i'r tŷ anghywir.

Cafodd Aamir Siddiqi, 17 oed o Gaerdydd, ei drywanu i farwolaeth ar garreg y drws yn Ebrill 2010.

Bu farw ar ôl ymosodiad dau ddyn oedd wedi cymryd heroin, yn gwisgo mygydau ac yn cario cyllyll.

Mae Jason Richards, 38 oed, a Ben Hope, 39 oed, yn gwadu llofruddiaeth a hefyd yn gwadu cyhuddiadau o geisio llofruddio rhieni Aamir.

Yn ôl yr erlyniad, y bwriad oedd lladd tad i bedwar oedd yn byw 70 llath o gartref Aamir Siddqi.

Dywedodd yr elrlynydd, Patrick Harrington QC, fod dyn busnes wedi talu'r ddau i ladd rhywun am fod cytundeb tai wedi mynd i'r gwellt.

Ond ar Ebrill 11, 2010, aeth y ddau i dŷ â brics coch ar ddiwedd rhes - ond yn yr heol anghywir.

'Camgymeriad enfawr'

Roedd yn "gamgymeriad enfawr," meddai, am fod Mr Siddiqi, unig fab, yn bwriadu astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Caerdydd.

Clywodd y llys fod ei dad 68 oed, Iqbal, a'i fam 55 oed, Parveen, wedi ceisio atal yr ymosodiad ac wedi eu trywanu.

Dywedodd Mr Harrington fod y ddau ddiffynnydd wedi defnyddio car Volvo oedd wedi ei ddwyn ac roedd olion gwaed y llanc yn y car yn ogystal ag olion bysedd Mr Hope.

Pan gafodd y ddau eu harestio roedd un yn beio'r llall.

"Yr hyn ddigwyddodd oedd bod y ddau wedi lladd," meddai'r erlynydd.

Mae disgwyl i'r achos bara am hyd at chwe mis.