Canolfan newydd i'r henoed
- Cyhoeddwyd
Mae cynghorwyr yn Sir Gaerfyrddin wedi cymeradwyo cynlluniau i godi canolfan gofal newydd.
Bydd y ganolfan yn cael ei adeiladu ar safle cartref presennol Cartref Preswyl Argel yng Nghaerfyrddin.
Fel rhan o'r cynlluniau bydd cartref Argel, a chartref gofal arall, Tawelan, yn cael eu dymchwel.
Bydd £3.5 miliwn yn cael ei wario ar y ganolfan newydd fydd yn cynnwys 50 o unedau un neu ddwy ystafell.
Bydd y safle newydd hefyd yn cynnwys 12 uned benodol ar gyfer cleifion dementia, a chanolfan ddydd gyda lle ar gyfer 25.
Ar un adeg roedd pryder lleol yng Nghaerfyrddin na fyddai'r cyngor yn codi canolfan newydd.
Dywedodd llefarydd ar ran y cyngor y byddai yna drefniadau dros dro i gartrefu preswylwyr tra bod y cartrefi yn cael eu dymchwel.
Byddai hynny'n digwydd ar ôl cyfnod o ymgynghori.