Ateb y Galw: Marlyn Samuel

Marlyn SamuelFfynhonnell y llun, Marlyn Samuel
  • Cyhoeddwyd

A hithau newydd gyhoeddi ei nofel newydd Yr Ail Briodas, yr awdures o Fôn, Marlyn Samuel sy'n ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw.

Beth yw eich atgof cyntaf?

Sefyll ar dop y grisiau yn nhŷ Nain ym Mynydd Mechell a datgan fy mod i isio chwaer fach fel roedd gan Medwyn a Michael, hogiau ffrindiau fy rhieni.

Rhyw ddwyflwydd a hanner o'n i ar y pryd. Yn ffodus gwireddwyd fy nymuniad neu duw a ŵyr be fyswn i wedi ei ddeud tasa 'na frawd bach wedi landio!

Beth yw eich hoff le yng Nghymru a pham?

Cors Ddyga ym Mhentre Berw. Byddai'n mynd am dro yno bob dydd mwy neu lai, glaw neu hindda efo Bruno y ci.

Yno fyddai'n cael cyfle i feddwl am y stori neu'r cymeriadau yn y nofel dwi'n ei sgwennu ar y pryd. Mae rhywun yn dueddol o gyfarfod yr un bobl yno hefyd ac yn gwneud ffrindiau. Yn wir mi ydw i bellach yn sgwennu cerdyn Dolig i un cwpwl ar ôl eu cyfarfod yn Gors!

Marlyn a Bruno'r ciFfynhonnell y llun, Marlyn Samuel
Disgrifiad o’r llun,

Marlyn a Bruno'r ci

Beth yw'r noson orau i chi ei chael erioed?

Mae 'na sawl noson yn dod i'r cof ond un noson arbennig iawn oedd cael mynd yn ôl i'r teras oedd ar ben gwesty yn San Angello, Sorrento. Roedd y gwesty arbennig hwnnw wedi ysbrydoli rhan o'r nofel Pum Diwrnod a Phriodas.

Pan o'n i'n sgwennu'r nofel honno ro'n i'n meddwl am y gwesty Eidalaidd hwnnw.

Roeddwn i wedi bod i fyny ar y teras unwaith o'r blaen efo Iwan y gŵr, ond mi ges i gyfle arbennig i fynd yn fy ôl yno efo tair ffrind.

Roedd yn brofiad emosiynol cael bod yn ôl yno efo copi o'r nofel yn fy llaw. Dwi'n cofio ffonio adra a deud wrth Iwan drwy fy nagrau fy mod i'n ôl yna ac yn methu credu'r peth. Roedd yn golygu cymaint.

Marlyn ar wyliau gyda'i ffrindiauFfynhonnell y llun, Marlyn Samuel
Disgrifiad o’r llun,

Marlyn ar wyliau gyda'i ffrindiau

Disgrifiwch eich hun mewn tri gair.

Siaradus, triw a braidd yn wyllt.

gwyliauFfynhonnell y llun, Marlyn Samuel
Disgrifiad o’r llun,

Marlyn ar wyliau

Pa ddigwyddiad yn eich bywyd sydd o hyd yn gwneud i chi wenu neu chwerthin wrth feddwl 'nôl?

Canu carioci i Bohemian Rhapsody gan Queen ym mharti plu Miriam, y ferch yn Lerpwl. Sôn am hwyl!

hendwFfynhonnell y llun, Marlyn Samuel
Disgrifiad o’r llun,

Hen-dw ei merch, Miriam

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwyaf o gywilydd arnoch chi erioed?

Blynyddoedd yn ôl wrth geisio ffeindio'n ffordd allan o westy Henllys Hall ym Miwmares mi gymrais i dro anghywir.

Mi yrrais i dros ryw wal isel ac mi laniodd y Mini Clubman yn dwt ar y cwrt tenis. Mi roedd fel rhywbeth tebyg i olygfa allan o'r gyfres The Duke of Hazzard erstalwm. Yn ffodus, doedd y car bach ddim gwaeth!

Pryd oedd y tro diwethaf i chi grio?

Ym mhriodas Miriam, fy merch hynaf mis Mehefin. Wnes i ddim sylweddoli y byddai'r diwrnod yn un mor emosiynol. Braf oedd cael dathlu diwrnod mor arbennig yng nghwmni teulu a ffrindiau.

Oes gennych chi unrhyw arferion drwg?

Faint o amser sydd ganddo chi? O'n i'n arfer cnoi fy ngwinedd yn ddrwg am flynyddoedd ond ers cael Shellac dwi wedi stopio.

Os oes yna unrhyw beth technegol ddim gweithio fy ymateb cynta' i bob tro ydi pwyso bob botwm sydd ar y ddyfais.

Os dwi'n mynd i mewn i'r gegin, lolfa neu'r ystafell wely dwi wastad yn gorfod rhoi'r teledu neu radio ymlaen gan fy mod i'n casau tawelwch. Yn wir, mi alwodd Dei Tomos fi un tro yn "gelyn tawelwch"!

Beth yw eich hoff lyfr, ffilm, albwm neu bodlediad a pham?

Llyfr i blant Minti a Monti Yn Mynd Ar Eu Gwyliau. Dwi'n cofio darllen y llyfr yn ysgol gynradd Llanddeusant ac wedi dotio efo straeon y ddwy lygoden fach ddireidus. Mae'r llyfr wedi aros yn y cof ers hynny. Mi fues i ddigon ffodus i gael gafael ar gopi o'r llyfr yn weddol ddiweddar a dwi'n ei drysori.

llyfrFfynhonnell y llun, Marlyn Samuel

Byw neu farw, gyda phwy fyddech chi’n cael diod a pham?

Y gomediwraig a'r ysgrifenwraig Victoria Wood. Roedd hi'n athrylith ac wedi'n gadael ni lawer iawn rhy fuan yn anffodus. Fyswn i wrth fy modd cael i eistedd i lawr a chael sgwrs efo hi am ei gwaith a'i holi hi sut roedd hi'n mynd ati i sgwennu a chreu ei chymeriadau.

Dywedwch rywbeth amdanoch chi eich hun nad oes yna lawer o bobl yn ei wybod.

Ar ôl i mi gael fy ngeni mi ges i fy enwi'n Ruth o ddydd Mawrth tan ddydd Iau. Mi gafodd fy rhieni gardiau babi newydd yn eu llongyfarch ar enedigaeth eu merch fach Ruth hyd yn oed. Ond ar ôl i fy Anti Eluned gael brenwef i gyfuno enw fy mam a fy nhad, sef Margaret ac Emlyn penderfynwyd fy ngalw i'n Marlyn.

Dwi'n un reit dda am neud sieri treiffl.

Dwi'n caru'r arth Paddington!

Ar eich diwrnod olaf ar y blaned, beth fyddech chi’n ei wneud?

Mynd am dro hir i Cors Ddyga efo Bruno gyntaf. Ar ôl hynny cael andros o barti mawr efo teulu a ffrindiau a wedyn gwd bei Wales!

Pa lun sy’n bwysig i chi a pham?

Llun o Iwan, fi a'r genod Miriam a Hawys a dynnwyd adeg fy mhen blwydd yn 60 eleni. Ddim yn aml 'da ni'n cael y cyfle i fod efo'n gilydd y dyddiau yma yn anffodus, Mae Miriam yn byw a gweithio yn Llundain a Hawys ar hyn o bryd yn gweithio'n Seland Newydd.

Marlyn a'i gŵr Iwan, a'i merched Hawys a MiriamFfynhonnell y llun, Marlyn Samuel
Disgrifiad o’r llun,

Marlyn a'i gŵr Iwan, a'i merched Hawys a Miriam

Petasech chi’n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai ef/hi?

Bruno y ci. Fyswn i'n licio gwybod be' sy'n mynd drwy ei feddwl bach o a chael profi ei fywyd braf o am un diwrnod. Dim ond bwyta, cysgu, snwffian a chodi fy nghoes. Dim byd i boeni amdano fo o gwbl.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Pynciau cysylltiedig

Hefyd o ddiddordeb: