Gŵyl i gofio Owain Glyndŵr

  • Cyhoeddwyd
Cerflun Owain Glyndŵr
Disgrifiad o’r llun,

Mae cerflun o Owain Glyndŵr ar y sgwâr yn nhref Corwen

Roedd gŵyl yn dathlu bywyd Owain Glyndŵr yn cael ei chynnal yng Nghorwen, Sir Ddinbych, dros y penwythnos.

Am y tro cyntaf roedd yr ŵyl yn para am dri diwrnod.

Dywedodd Sian Parry, un o drefnwyr yr ŵyl: "Nod yr ŵyl ydy codi ymwybyddiaeth am Ddydd Owain Glyndŵr, sef Medi 16.

"Rydyn ni hefyd am godi ymwybyddiaeth o'r defnydd o'r Gymraeg yn y dref.

"Rydyn ni'n creu bwrlwm Cymraeg yng Nghorwen a rhywbeth sy'n addas i bawb o bob oed a chefndir," meddai.

Gorymdaith

Ymhlith y gweithgareddau roedd taith gerdded i lefydd gyda chysylltiadau ag Owain Glyndŵr.

Roedd hefyd ddarlith am hanes Owain Glyndŵr a gwasanaeth dwyieithog yng nghapel Seion.

Ar ddiwedd yr ŵyl roedd gorymdaith i sgwâr y dref er mwyn gosod blodau wrth gerflun Owain Glyndŵr.

Nos Sul am 7pm roedd y bardd a'r darlithydd, Mererid Hopwood, yn sôn am ba mor berthnasol oedd Glyndŵr i'n cyfnod ni.

Roedd y ddarlith yn Y Galeri yng Nghaernarfon.

"Y nod yw codi cwestiynau am ein hunaniaeth ni a sut yr ydyn ni'n darlunio ein hunain fel pobol," meddai cyn y ddarlith.

Roedd hi'n cyfeirio at arwyddocad llinell yr anthem genedlaethol: 'Ein gwrol ryfelwyr, gwladgarwyr tra mad…'

Ers blynyddoedd mae ymgyrch wedi bod i droi Diwrnod Glyndwr yn ŵyl swyddogol.