Llys: Gweld ffilm o ddyn yn gwario enillion
- Cyhoeddwyd
Mae rheithgor yn Llys y Goron Abertawe wedi gweld ffilm camera cylch cyfyng o ddyn ar gyhuddiad o lofruddio yn gwario ei enillion ar esgidiau ymarfer a gliniadur.
Cafodd Aamir Siddiqi, 17 oed o Gaerdydd, ei drywanu i farwolaeth ar garreg y drws yn Ebrill 2010.
Bu farw ar ôl ymosodiad dau ddyn oedd wedi cymryd heroin, yn gwisgo mygydau ac yn cario cyllyll.
Mae Jason Richards, 38 oed, a Ben Hope, 39 oed, yn gwadu llofruddiaeth a hefyd yn gwadu cyhuddiadau o geisio llofruddio rhieni Aamir.
Clywodd y llys fod y ddau wedi ei lofruddio wedi iddyn nhw fynd i'r tŷ anghywir.
Dywedodd yr erlynydd, Patrick Harrington, fod Mr Hope wedi derbyn £1000 am ladd y llanc.
Gwariodd yr arian y diwrnod wedyn a gwelodd y rheithgor ffim ohono'n mynd ag amlen oedd yn llawn arian i siop cyn prynu esgidiau ymarfer.
Anarferol
Roedd siopwraig wedi dweud bod gweld cymaint o arian mewn amlen ar ddydd Sul yn anarferol.
Wedyn gwelodd y rheithgor ffilm ohono'n dal tacsi i siop PC World yn Heol Casnewydd, Caerdydd.
Gofynnodd i'r gyrrwr aros wrth iddo brynu gliniadur am £700 ar frys a dywedodd y diffynnydd mai ei enw oedd Smith.
Ddau ddiwrnod yn ddiweddarach, meddai'r erlyniad, gwerthodd Mr Hope ei liniadur am £200 mewn siop ail law.
Mae disgwyl i'r achos bara am hyd at chwe mis.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Medi 2012