Cystadleuaeth yn denu milloedd
- Cyhoeddwyd

Mae'r ras yn cynnwys nofio 2.6 milltir
Bu nifer o ffyrdd ar gau yn ardal Dinbych y Pysgod yn sir Benfro ar gyfer cystadleuaeth triathlon arbennig.
Yn ôl y trefnwyr roedd disgwyl hyd at 10,000 i wylio cystadleuaeth Ironman dydd Sul.
Hwn yw ail dro i'r gystadleuaeth gael ei chynnal yng Nghymru.
Bydd yn rhaid i'r athletwyr nofio 2.4 milltir, seiclo 112 o filltiroedd ac yna rhedeg 26.2 milltir.
Dechreuodd y ras am 7am ar draeth y gogledd yn Ninbych-y-Pysgod.
Bydd y ras yn amharu ar nifer o wasanaethau bysiau lleol gan gynnwys y gwasanaeth 381 rhwng Hwlffordd i Arberth.
Ni fydd y gwasanaeth yn mynd i Ddinbych-y-Pysgod fel mae'n arfer gwneud.
Dywed y cyngor sir eu bod yn hyderus na fydd yr achlysur yn effeithio ar draffig sy'n teithio ar yr A40 a'r A477.
Yn y cyfamser mae disgwyl i 600 o athletwyr gymryd rhan mewn ras triathlon yn Llanddwyn Ynys Môn, hefyd ar ddydd Sul.
Bydd y ffordd o sgwâr Niwbwrch i Goedwig Niwbwrch ar gau rhwng 9am a 2.30pm.
Straeon perthnasol
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd11 Medi 2011
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd1 Medi 2011
- Adran y stori
- Cyhoeddwyd27 Awst 2011