Band eang sâl yn 'niweidio'r economi' yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd

Mae economi Cymru'n diodde' oherwydd diffyg darpariaeth band eang, sy'n atal buddsoddiad yng nghefn gwlad Cymru, meddai Aelodau Seneddol.

Mae'r Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig eisiau i lywodraethau Cymru a San Steffan gydweithio i gael gwell cysylltiad i'r rhyngrwyd ym mhob rhan o Gymru.

Yn ôl cadeirydd y pwyllgor, Aelod Seneddol Mynwy David Davies, mae'n anodd credu fod rhai rhannau o'r wlad yn dal heb unrhyw gysylltiad o gwbl.

Dywed Swyddfa Cymru fod y ddwy lywodraeth wedi buddsoddi'n hael mewn gwasanaethau.

"Mae'n amhosib gweld sut y gall busnesau na'r economi ddatblygu yn yr ardaloedd hyn," meddai Mr Davies.

Mewn adroddiad ddydd Llun, mae'r pwyllgor yn galw ar lywodraethau San Steffan a Chymru i gydweithio i sicrhau bod cyflymder cysylltiad i'r rhyngrwyd yng Nghymru'n agosach i'r hyn ydyw yng ngweddill y DU - a hynny ar fyrder.

Mae'n dweud fod mynediad i fand eang wedi bod yn "gyson is" yng Nghymru nag yng ngweddill y DU.

Er bod y bwlch yna wedi lleihau dros y blynyddoedd diwetha', mae'r ffigurau diweddara'n dangos fod y bwlch rhwng Cymru a'r DU wedi tyfu eto.

Cefn gwlad

Yng nghefn gwlad Cymru, mae'r diffyg band eang neu gysylltiad araf wedi effeithio ar waith busnesau ac wedi atal busnesau newydd rhag lleoli yno," meddai'r adroddiad.

Dywedodd Mr Davies: "Mae cysylltiad cyflym i'r we yn hanfodol i fusnesau a'r economi yng Nghymru.

"Mae gan y ddwy lywodraeth dargedau uchelgeisiol iawn ar gyfer darpariaeth band eang a does dim llawer o amser ar ôl i'w cyflawni."

Ym mis Gorffennaf, fe arwyddodd Llywodraeth Cymru gytundeb gwerth £425m gyda BT i uwchraddio'r rhwydwaith i 96% o adeiladau erbyn 2015.

Meddai llefarydd ar ran Swyddfa Cymru: "Mae'r sefyllfa band eang yng Nghymru yn rhywbeth 'da ni'n ymwybodol iawn ohono ac yn fater rydyn ni'n ceisio delio ag o mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru.

"Mae'r buddsoddiad £425m yn brawf o sut y gall y ddwy lywodraeth gydweithio, gyda £205m o'r costau'n dod o'r DU, Llywodraeth Cymru a chyllid Ewropeaidd, a'r gweddill yn dod gan BT sy'n cynnal y gwaith.

"Mae Caerdydd hefyd wedi'i dewis fel un o'r dinasoedd cynta' i gael cysylltiad cyflym iawn gyda chyllid o hyd at £12m ar gael, a bydd Abertawe a Chasnewydd yn cael ceisio am yr ail rownd o ariannu a gyhoeddwyd yn gynharach eleni.

"Rydym hefyd wedi ymrwymo i wella'r signal ffôn symudol yng Nghymru, gyda'r Gyllideb ddiweddar yn clustnodi £150m ar draws y DU, fydd yn cynnwys yr A470 rhwng Llandudno a Chaerdydd - sydd â phroblemau signal ar hyn o bryd.

"Rydym yn parhau i geisio cydweithio gyda Llywodraeth Cymru i ddelio â'r materion hyn."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol