Rhieni 'yn llawn gwaed' wrth geisio atal llofruddion
- Cyhoeddwyd
Mae rheithgor yn Llys y Goron Abertawe wedi clywed bod rhieni'n llawn gwaed wedi iddyn nhw geisio atal llofruddion eu mab.
Cafodd Aamir Siddiqi, 17 oed o Gaerdydd, ei drywanu i farwolaeth ar garreg y drws yn Ebrill 2010.
Bu farw ar ôl ymosodiad dau ddyn oedd wedi cymryd heroin, yn gwisgo mygydau ac yn cario cyllyll.
Mae Jason Richards, 38 oed, a Ben Hope, 39 oed, yn gwadu llofruddiaeth a hefyd yn gwadu cyhuddiadau o geisio llofruddio rhieni Aamir.
Clywodd y llys fod y ddau wedi ei lofruddio wedi iddyn nhw fynd i'r tŷ anghywir.
"Pan agorodd y drws, fe ymosodon nhw'n syth," meddai'r tad 68 oed, Mr Ahmad, mewn cyfweliad fideo.
Roedd e wedi cael llawdriniaeth ar ei ben-glin ond ceisiodd wthio ymosodwr yn erbyn wal.
Ond roedd y dyn yn rhy gryf a thorrodd e â chyllell cyn dianc. Clywodd y rheithgor fod mam 55 oed Aamir hefyd wedi ei thorri â chyllell.
Roedd y mab yn astudio ar gyfer lefel A pan ganodd y gloch a fe aeth i'r drws gan ei fod yn disgwyl athro Coran.
'Help'
Gan nad oedd y ffôn yn gweithio rhedodd y fam allan o'r tŷ a gweiddi: "Help, help, help, mae'r mab yn marw."
Roedd sawl ymgais i adfywio'r mab ond yn Ysbyty'r Brifysgol yng Nghaerdydd cyhoeddwyd ei fod wedi marw.
"Roedden ni wedi byw yno am 18 mlynedd a neb wedi ein bygwth," meddai'r tad.
"Pam y dylai rhywun ddod i mewn i'n cartre' ni a lladd fy mab?"
Mae disgwyl i'r achos bara am hyd at chwe mis.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Medi 2012
- Cyhoeddwyd12 Medi 2012