Elinor yw pencampwraig y byd
- Cyhoeddwyd
Mae'r Gymraes Elinor Barker wedi ennill medal aur yn y ras yn erbyn y cloc i ferched dan 19 oed ym Mhencampwriaethau Seiclo Ffordd y Byd yn yr Iseldiroedd.
Roedd Barker, 18 oed o'r Waun yng Nghaerdydd, wedi croesi'r llinell derfyn mewn amser o 22 munud a 26 eiliad - 35 eiliad cyn Cecilie Ludwig o Ddenmarc, ddaeth yn ail.
Demi de Jong, o'r Iseldiroedd, gipiodd y fedal efydd.
Fe sicrhaodd Barker fedal arian yn yr un gystadleuaeth y llynedd, ac fe enillodd bencampwriaeth Ewrop yn y ras ymlid yn gynharach eleni.
Mae'n dilyn ôl troed Cymraes arall, Nicole Cooke - y cystadleuydd diwetha' o Brydain i gipio aur yn y gystadleuaeth hon yn 2001.