Rhybudd am ordewdra yng Nghymru

  • Cyhoeddwyd
An obese womanFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,

Mae cyfraddau gordewdra yng Nghymru wedi cynyddu ers 2003

Mae dros hanner oedolion Cymru dros eu pwysau neu'n ordew, yn ôl yr adroddiad diweddaraf am iechyd y Cymry, dolen allanol.

Mae'r arolwg blynyddol yn dangos bod y broblem yn effeithio ar 57% o oedolion gyda 22% yn ordew. Yn ogystal, mae 35% o blant yn cael eu hystyried dros eu pwysau gydag 19% yn ordew.

Er gwaethaf rhybuddion, dyw manylion oedolion ddim wedi newid ers arolwg y llynedd.

Mae'r arbenigwr ar ordewdra Dr Nadim Haboubi wedi dweud mai diffyg arian yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ar gyfer llawdriniaeth hanfodol a chymorth cymunedol oedd ar ar fai.

Gwaethaf

Fis diwethaf dywedodd Dr Haboubi, sydd hefyd yn gadeirydd Fforwm Gordewdra Cenedlaethol Cymru, fod y broblem "yn anferth, yn llawer gwaeth nag yn Lloegr, yn waeth nag unman arall yn y DU ac ymhlith y gwaethaf yn y byd gorllewinol ...

"Y wlad waethaf yw'r Unol Daleithiau ond, yn sicr, dydyn ni ddim yn bell y tu ôl iddyn nhw."

Roedd rhywfaint o newyddion da mewn dogfen sy'n edrych ar dueddiadau iechyd yng Nghymru rhwng 2003-04 a 2011.

Ymhlith y canlyniadau, mae'n dweud bod :-

  • Cyfraddau gordewdra wedi cynyddu ers 2003, ond yn cynyddu'n arafach ers 2007;

  • Cyfraddau ysmygu wedi lleihau dros y cyfnod dan sylw;

  • Ychydig iawn o newid yn y lefel yfed gormod o alcohol ers 2008;

  • Gostyngiad bach ers 2008 yng nghanran oedolion Cymru oedd yn bwyta pump neu fwy o ddarnau o ffrwyth a llysiau bob dydd;

  • Lefelau ymarfer corff wedi aros yn weddol gyson rhwng 2003 a 2011.

Mae'r BBC wedi gofyn i Lywodraeth Cymru am eu hymateb i'r canlyniadau.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol