Bâd achub yn tynnu dau berson o'r môr

  • Cyhoeddwyd
Bad achubFfynhonnell y llun, RNLI
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd bâd achub newydd Porthdinllaen ei ddefnyddio i achub y ddau

Cafodd dau berson eu hachub wedi iddyn nhw fynd i drafferthion mewn caiac ger arfordir Pen Llŷn ddydd Sul.

Dywedodd Gwylwyr y Glannau yng Nghaergybi bod y ddau wedi galw am gymorth gan ddefnyddio radio UHF.

Aeth timau ar droed o Aberdaron a Phorthdinllaen i chwilio am y ddau o'r lan, ac fe aeth bâd achub newydd Porthdinllaen hefyd i gynnig cymorth.

Bu'n rhaid i wylwyr y glannau ofyn am gymorth dwy long arall - llong HMS Tyne o'r Llynges Frenhinol a'r llong bysgota Ocean Bounty - i gynorthwyo gyda'r chwilio.

Cafodd y ddau gaiaciwr eu gweld o'r lan gan griw Aberdaron, ac fe aeth HMS Tyne atyn nhw tan i'r bâd achub eu cyrraedd.

Fe gawson nhw'u tynnu o'r dŵr gan y bâd achub cyn dychwelyd i'r lan yn Aberdaron.

Dywedodd llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau nad oedd angen triniaeth feddygol ar y ddau. Ychwanegodd nad oedd y ddau wedi medru ymdopi gyda'r llanw cryf yn yr ardal, a'u bod wedi methu rhoi lleoliad pendant wrth alw am gymorth.