Cynhadledd yn ceisio delio â heriau iechyd gwledig
- Cyhoeddwyd
Mae cynhadledd sy'n bwriadu mynd i'r afael â gofynion addysg gweithwyr iechyd yng nghefn gwlad yn dechrau ddydd Mercher.
Bydd Cynhadledd Gofal Sylfaenol Cefn Gwlad am dridaiu yn Neuadd Gregynog, Tregynog ger Y Drenewydd.
Cymdeithas Feddygol Maldwyn ynghyd â'r Sefydliad Iechyd Gwledig sy' wedi ei threfnu.
Ymysg y pynciau trafod bydd paediatreg ac arweinyddiaeth glinigol.
Mae'r digwyddiad yn rhan o Wythnos Iechyd Gwledig sy'n anelu at hybu ymwybyddiaeth o broblemau iechyd sy'n gysylltiedig â bywyd cefn gwlad.
'Yn hyblyg'
Dywedodd Jane Randall-Smith, prif weithredwr y sefydliad: "Rhaid i wasanaethau iechyd a gofal gwledig ddelio â phoblogaeth hŷn sy'n fwy tebygol o ddiodde' afiechydon dirywiol a pharhaol.
"Bydd rhaid inni ymateb i'r heriau hyn drwy fod yn hyblyg.
"Mae pobl sydd wedi ymddeol yn symud i ardaloedd gwledig tra bod pobl ifanc yn gadael yr ardaloedd hyn i chwilio am waith.
"Mae hyn yn golygu bod mwy o gyfle i wirfoddolwyr helpu gyda heriau iechyd a gofal ..."