Oriel luniau: Nant Gwrtheyrn dros y blynyddoedd

  • Cyhoeddwyd
Nant Gwrtheyrn
Disgrifiad o’r llun,

Mae Canolfan Iaith Nant Gwrtheyrn wedi ei lleoli yn y pentre’ ger Llithfaen ym Mhen Llŷn. Agorwyd y ganolfan ym 1982 er mwyn cynnig gwersi Cymraeg wedi i gyfrifiad 1981 nodi bod 'na bryder am ddyfodol yr iaith yn sgil y mewnlifiad i gadarnleoedd fel Gwynedd

Disgrifiad o’r llun,

Cafodd hen dai'r Nant eu hadfer a'u haddasu yn llefydd aros ar gyfer y rhai oedd yn mynd ar gyrsiau preswyl.

Disgrifiad o’r llun,

Y criw yma oedd y cyntaf i gael gwersi Cymraeg yn y Nant, yn ystod Pasg 1982, a hynny yn nhŷ teras Dwyfor

Disgrifiad o’r llun,

Lleolwyd y ganolfan yn Nant Gwrtheyrn oherwydd "y gall y syniad o adfywio hen bentref, cymdeithas ac iaith gydweithio'n llawer mwy effeithiol mewn llecyn mor rhamantus, hanesyddol , diarffordd a phrydferth," meddai un o amcanion gwreiddiol y ganolfan.

Disgrifiad o’r llun,

Y gwersi Cymraeg yw'r prif beth sy'n cael eu cynnal yn y Nant ac maen nhw'n amrywio o ran gallu ieithyddol ac o ran cyrsiau.

Disgrifiad o’r llun,

Er mwyn cynnig gwasanaeth llawn a'r amgylchedd gorau ar gyfer y rhai fyddai'n ymweld â'r Nant fe gafodd hen adeiladau'r pentref eu haddasu ar gyfer bod yn llefydd i fyw, aros a dysgu.

Disgrifiad o’r llun,

Mae nifer yn manteisio ar yr adnoddau sydd ar gael i ddysgu'r iaith gyda rhai a fu yno yn ddiweddar yn dweud bod y lleoliad yn "ychwanegu cymaint" at y profiad o ddysgu

Disgrifiad o’r llun,

Erbyn hyn mae'r hen gapel yn y Nant wedi cael ei hadfer ac mae'r ganolfan yn cynnig mwy na gwersi Cymraeg. Mae modd priodi a chael gwledd priodas erbyn hyn yno.

Disgrifiad o’r llun,

Mae 'na bob math o bobl o wahanol gefndir a phrofiad yn cael gwersi yn y Ganolfan ac yn cael cyfle i ddysgu'r iaith mewn dull ffurfiol ond mewn dull hamddenol yn ogystal.

Disgrifiad o’r llun,

Dros benwythnos olaf mis Medi 2012 mae'r Nant yn dathlu 30 mlynedd o fod yn ganolfan iaith genedlaethol ac yn parhau i wneud cyfraniad tuag at dwf y siaradwyr Cymraeg.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol