Awgrym o glymblaid rhwng Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol
- Cyhoeddwyd
![Peter Hain](https://ichef.bbci.co.uk/ace/standard/304/mcs/media/images/63195000/jpg/_63195423_005034526-1.jpg)
Cred Peter Hain yw bod llywodraeth clymblaid yn mynd i ddod yn fwyfwy cyffredin
Fe awgrymodd un o Aelodau Seneddol Llafur Cymru y gall ei blaid greu clymblaid â'r Democratiaid Rhyddfrydol yn y dyfodol.
Daw sylw Peter Hain am y glymblaid petai'r Blaid Lafur yn methu ennill mwyafrif yn yr etholiad cyffredinol nesa'.
"Gall clymblaid fod yn nodwedd gweddol barhaol o wleidyddiaeth Prydain," meddai cyn-ysgrifennydd Cymru.
Ond mae Mr Hain yn credu bod modd i'w blaid ennill yn gyfforddus yn 2015.
Mewn erthygl yn yr Independent on Sunday mae AS Castell-nedd yn dweud mai "eithriad fydd gweld un blaid yn llywodraethu" yn y dyfodol.
Mae'n dweud "bod rhaid i'w blaid ail-feddwl am ei gwleidyddiaeth".
Fe fydd yn haws i'w harweinydd, Ed Miliband, meddai, ddod i gytundeb gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol o adain Lloyd George y blaid, o dan arweiniad eu harweinydd presennol Nick Clegg.