Angen hyfforddi meddygon ifanc neu bydd rhaid cau wardiau
- Cyhoeddwyd
Fe allai adrannau ysbytai gael eu gorfodi i gau ar fyr rybudd oni bai fod rhywbeth yn cael ei wneud ar frys i fynd i'r afael ag anghenion hyfforddiant meddygon ifanc, yn ôl y corff sy'n gyfrifol am hyfforddiant meddygol yng Nghymru.
Mae Deoniaeth Cymru wedi dweud wrth BBC Cymru fod "argyfwng recriwtio" meddygon arbenigol megis gofal plant, damweiniau ac achosion brys, a seiciatreg yn golygu fod ysbytai yn "ei chael hi'n anodd darparu hyfforddiant digonol".
Mae cynllun gweithredu, sydd wedi dod i law BBC Cymru, wedi'i sylfaenu ar ymweliadau ag ysbytai gan y Ddeoniaeth a'r Cyngor Meddygol Cyffredinol ynghyd â chanlyniadau arolygon y Cyngor ar waith meddygon ifanc - hefyd yn datgelu gwendidau difrifol ac anghysondeb mawr yn safon yr hyfforddiant meddygol yn ysbytai Cymru.
Mae hefyd yn amlinellu achosion pan mae meddygon ifanc wedi bod yn gweithio'n unigol heb eu harolygu.
Yn ôl Dirprwy Ddeon Safon, Deoniaeth Cymru, Dr Sian Lewis, mae'r gwasanaeth sy'n cael ei gynnig i'r cyhoedd mewn rhai ysbytai hefyd yn "hynod o agos at y dibyn."
Anodd ymdopi
Mae Dr Lewis hefyd yn rhybuddio y gallai meddygon ifanc gael eu tynnu o rai adrannau oni bai eu bod yn derbyn hyfforddiant gwell.
"Mae'n fater brys....mae argyfwng recriwtio (mewn rhai meysydd arbenigol)...yn golygu ein bod yn ei chael hi'n anodd cyflwyno hyfforddiant digonol," meddai.
"Mae gwasanaethau hefyd yn aml yn agos iawn at y dibyn o safbwynt ymdopi.
"Mae ein meddygon yn gweithio'n galed...ond yn amlwg os ydan ni'n cyrraedd pwynt lle nad ydyn ni'n gallu datrys ein problemau hyfforddiant yna bydd yn rhaid i unedau gau yn annisgwyl."
Ar draws holl fyrddau iechyd Cymru, nododd meddygon ifanc wendidau systematig yn y cyfleoedd hyfforddiant a materion diogelwch cleifion. Mae'r rhain yn cynnwys:
Meddygon gyda dim ond dwy flynedd o brofiad yn brif ddoctor ar ddyletswydd yn nos yn Adran Lawfeddygol Plant Ysbyty Prifysgol Cymru, Caerdydd.
Meddyg gyda dim ond dwy flynedd o brofiad yn gweithio ar ben ei hun dros nos yn Adran Damweiniau ac Achosion Brys Ysbyty Nevill Hall yn Y Fenni.
Meddygon ym maes meddygaeth yr aren â dim digon o brofiad trawsblannu a meddygon niwrolegol dan hyfforddiant ddim yn cael digon o fynediad i ystafelloedd llawdriniaeth yn Ysbyty Prifysgol Cymru.
Seiciatrydd dan hyfforddiant yng Nghlinig Caswell ym Mhen-y-Bont ar Ogwr yn gweithio y tu hwnt i lefel ei gymhwyster.
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi pryderon am ddiogelwch cleifion oherwydd diffyg goruchwyliaeth glinigol gan feddygon ymgynghorol mewn Obstetreg a Gynecoleg yn Ysbyty Glan Clwyd, hyfforddiant gofal difrifol annigonol mewn Anaesthetyddion yn Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin a meddygon ifanc oedd yn Anaesthetyddion yn Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful ddim yn cael mynediad i'r isafswm o sesiynau dysgu bob wythnos.
Taclo'r pwyntiau
Mae'r Cynllun Gweithredu hefyd yn dangos i hyfforddiant Llawfeddygol Craidd yng Nghymru gael ei raddio olaf ym Mhrydain yn 2011 o safbwynt bodlondeb.
Mae hefyd yn dynodi problemau mawr nad ydi ysbytai Cymru yn darparu mynediad i'r we ar gyfer meddygon ifanc fel bo modd iddyn nhw wneud gwaith ymchwil neu astudio.
Mae Deoniaeth Cymru yn dweud eu bod yn gweithio'n barhaol â'r Byrddau Iechyd er mwyn adnabod problemau a chyflwyno gwelliannau.
Mae Llywodraeth Cymru yn mynnu eu bod nhw'n fodlon fod gwaith wedi'i wneud i daclo'r rhan fwyaf o'r pwyntiau a godwyd yn yr arolwg.
Maen nhw hefyd yn dweud fod arolwg meddygon ifanc y cyngor yn dangos fod canran uwch yn fodlon gyda'u hyfforddiant yng Nghymru o'i gymharu â Phrydain gyfan.
Ond mae Cadeirydd Pwyllgor Meddygon Ifanc y BMA yng Nghymru, Dr David Samuel, yn dweud fod Cymru'n cwympo tu ôl i rannau eraill o Brydain.
Yn ôl Dr Samuel mae problemau hyfforddiant yn ei gwneud hi'n anodd iawn i ddenu meddygon ifanc i weithio yng Nghymru.
'Goruchwyliaeth'
"Mae Cymru ar ei hol hi o'i gymharu ag ardaloedd eraill ac mi rydw i'n poeni ar adegau fod dyfodol meddyginiaethau yn cael ei beryglu...yr ofn yw bod y llong yn dechrau gwichian," meddai.
"Ystyriwch bethau fel mynediad i'r we a chyfrifiaduron - yn y byd modern mi rydyn ni gyd eu hangen.
"Os ydych chi'n feddyg yn Llundain ac yn gweld arolwg y CMC nad ydyn nhw hyd yn oed yn gallu llwyddo i roi mynediad i'r we, yna rydych chi'n gofyn pam dwi'n mynd i weithio yno.
"Ac wrth ystyried pwyntiau eraill o'r arolwg megis goruchwyliaeth mewn meysydd arbenigol mi rydych chi'n mynd i feddwl ydw i wir eisiau mynd yno neu ydw i am fynd i rywle sy'n cynnig hyfforddiant o safon uchel gyda llawer o oruchwyliaeth.
"Oni bai fod yna weithredu ar frys ... bydd ein henw da ond yn gwaethygu."
Dywedodd Aled Roberts, AC Democratiaid Rhyddfrydol dros Ogledd Cymru, eu bod wedi bod yn gofyn i'r llywodraeth am yr hyn sy'n cael ei wneud i ddatrys y broblem recriwtio.
"Mae 'na broblemau wedi bod ers rhai blynyddoedd.
"Mae'r adroddiad yma yn dangos bod meddygon o dan hyfforddiant, o achos prinder meddygon uwch, bod yr hyfforddiant yng Nghymru ddim cystal â Lloegr.
"Mae hyn yn gofyn cwestiynau a fydd y meddygon ifanc yn bwriadu aros yma ar ôl hyfforddi ac o bosib achosi problemau yn y dyfodol am ddiffyg meddygon."