Cyllideb: 'Dim lle i gyfaddawdu'
- Cyhoeddwyd
Mae Gweinidog Cyllid Cymru wedi rhybuddio'r gwrthbleidiau nad oes ganddi le i gyfaddawdu ar y gyllideb a gyhoeddodd ddydd Mawrth.
Roedd y gwrthbleidiau wedi beirniadu cynlluniau gwario Jane Hutt wedi iddi hi ddweud y byddai Llywodraeth Cymru yn defnyddio'i chyllideb o £15 biliwn i gynorthwyo twf yr economi.
Does gan Llywodraeth Cymru ddim mwyafrif yn y Senedd, ac felly mae angen cefnogaeth rhai aelodau o'r gwrthbleidiau er mwyn cymeradwyo'r gyllideb.
Awgrymodd Ms Hutt y byddai'n anodd talu am gyfaddawd i bleso'r gwrthbleidiau gan nad oes arian yng nghoffrau'r llywodraeth.
'Trylowy'
Dywedodd ei bod wedi ceisio "adlewyrchu blaenoriaethau gwleidyddol ar draws y siambr yn y gyllideb hon".
"Rwyf wedi bod yn glir a thryloyw ynglŷn â'r hyn sydd ar gael," meddai.
"Rydym ar y gwaelod o safbwynt y coffrau ariannol.
"Cyn belled ag yr ydym ni yn y cwestiwn, rydym wedi dweud yn glir beth yw'r gyllideb sydd ar gael."
Mae'r gyllideb, dolen allanol yn rhedeg hyd at ddiwedd cyfnod adolygiad gwariant llywodraeth y DU.
Mae'n datgan cynlluniau gwario Cymru ar gyfer 2013/14, ac yn amlinellu'r cynlluniau ar gyfer y flwyddyn ariannol i ddilyn.
'Dirmyg'
Gyda 30 o'r 60 o Aelodau Cynulliad, ni all Llafur basio'r gyllideb ar ei phen ei hun. Mae disgwyl pleidlais derfynol ym mis Rhagfyr.
Cafodd cyllideb y llynedd ei chymeradwyo yn dilyn cytundeb gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ymwneud ag arian ychwanegol ar gyfer disgyblion ysgol difreintiedig.
Mae cyllideb ddrafft ddydd Mawrth yn cadw'r arian yna, ond dywedodd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru nad oedden nhw'n medru cymeradwyo'r gyllideb ar ei ffurf bresennol.
Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig bod y gyllideb yn "dirmygu'r" gwasanaeth iechyd, ac mae Plaid Cymru am weld mwy o gymorth i'r economi.
Yn y gyllideb, dywedodd Ms Hutt ei bod am barhau gydag ymrwymiad Llafur i gadw budd-daliadau i bawb - rhywbeth sydd wedi bod o dan y chwydd-wydr mewn cyfnod o doriadau.
Dywedodd bod Llywodraeth Cymru yn bendant am gadw polisïau fel prescripsiynau rhad ac am ddim a brecwast am ddim mewn ysgolion cynradd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2012
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2012