Fferyllfeydd i gynnig brechlyn ffliw

  • Cyhoeddwyd
Brechlyn ffliwFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Mae swyddogion iechyd yn targedu grwpiau risg uchel

Bydd y brechlyn ffliw ar gael mewn rhai fferyllfeydd yng Nghymru am y tro cynta', yn ôl Llywodraeth Cymru.

Bydd pobl mewn grwpiau risg uchel - fel merched beichiog - yn cael y brechlyn yn rhad ac am ddim.

Daeth y cyhoeddiad wedi i ymgyrch flynyddol y brechlyn gael ei lansio mewn canolfan feddygol yng Nghaerdydd.

Eisoes mae pobl yn gallu mynd at eu meddygon teulu i gael y brechlyn ond bellach mae 137 o fferyllfeydd cymunedol yn mynd i fod yn ei gynnig.

Fydd dim angen trefnu apwyntiad a bydd y brechlyn yn cael ei roi gan fferyllwyr sydd wedi cael eu hyfforddi i wneud, a hynny mewn ystafelloedd preifat.

Dywedodd y Prif Swyddog Meddygol Dr Ruth Hussey ei bod eisiau annog cymaint o bobl â phosib mewn grwpiau risg uchel i gael eu brechu.

Mae'r fferyllfeydd sy'n cynnig y brechlyn i'w gweld ar wefan Galw Iechyd Cymru, dolen allanol.

"Mae'r ffliw yn lledaenu'n hawdd ac yn gallu achosi salwch difrifol, fyddai angen triniaeth yn yr ysbyty," meddai Dr Hussey.

"Mae pobl sy'n diodde' o gyflyrau penodol mewn mwy o beryg o fynd yn ddifrifol wael petai nhw'n cael y ffliw. Dyna pam ein bod yn annog rhai sydd yn y grwpiau hyn i gael eu brechu."

Gall y ffliw arwain at gymhlethdodau iechyd eraill.

Grwpiau risg

"Mae'r rhan fwya' yn gwybod fod y brechlyn ar gael i rai sydd dros 65 oed, ond dyw nifer o bobl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd ddim yn gwybod y gallan nhw gael eu brechu hefyd," meddai Dr Hussey.

"Mae'n hynod bwysig fod pobl sydd yn y grwpiau risg yma'n cael eu brechu."

Mae'r rhai ddylai gael eu brechu'n cynnwys:

  • Pobl dros 65 oed a phobl mewn gofal hirdymor

  • Pobl gyda chlefydau resbiradol hirdymor fel asthma drwg, Clefyd Rhwystrol Cronig yr Ysgyfaint (COPD) neu froncitis

  • Pobl â chlefydau hirdymor y galon, arennol neu'r iau, clefydau niwrolegol neu glefyd siwgr

  • Pobl sydd ag imiwnedd gwan oherwydd afiechydon fel HIV, Aids neu ganser.

Dylai gweithwyr iechyd, gofalwyr, merched beichiog ac aelodau o sefydliadau gwirfoddol sy'n darparu cymorth cyntaf mewn digwyddiadau cyhoeddus hefyd gael eu brechu.

Mae'r cyhoeddiad wedi cael ei groesawu gan Fferylliaeth Gymunedol Cymru, sy'n dweud y bydd yn annog rhagor o bobl i gael eu brechu.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol