Disgwyl dyfarniad am ddyfodol marchnad da byw Y Fenni

  • Cyhoeddwyd
Defaid yn farchnad da byw Y FenniFfynhonnell y llun, BBC Wales
Disgrifiad o’r llun,

Llwyddodd gwrthwynebwyr i gael adolygiad barnwrol

Mae'r ddwy ochr mewn dadl gyfreithlon hir am farchnad da byw Y Fenni yn aros am ddyfarniad yr Uchel Lys.

Llwyddodd ymgyrchwyr i gael adolygiad barnwrol er mwyn ceisio atal cau'r farchnad a'i symud i leoliad 10 milltir i ffwrdd.

Mae'r farchnad bresennol wedi cael ei defnyddio am dros 150 mlynedd.

Mae Mrs Ustus Davies, glywodd yr achos yng Nghaerdydd, yn ystyried ei dyfarniad.

Gobaith yr ymgyrchwyr KALM (Cadw Marchnad Da Byw Y Fenni) ydi cadw'r farchnad ger canol y dre'.

Er mwyn cau'r farchnad mae'r awdurdod lleol wedi gofyn i Lywodraeth Cymru ddileu dwy adran Deddf Gwella'r Fenni 1854 sy'n galw ar y cyngor i gynnal marchnad yn y dref.

Archfarchnad a llyfrgell

Mae'r mudiad yn honni bod gweinidogion Cymru wedi dileu'r ddeddf yn anghyfreithlon.

Roedd ail adolygiad barnwrol yn herio'r awdurdod lleol ar faterion cynllunio.

Mae'r cyngor eisiau cau'r farchnad ac agor un newydd ger Rhaglan.

Eisoes mae'r cyngor wedi cytuno i werthu'r safle ac wedi caniatáu cais cynllunio ar gyfer archfarchnad a llyfrgell.

"Rydym eisiau perswadio'r cyngor i drafod â phobl yn Y Fenni sy'n poeni am ddyfodol y dref a'r farchnad da byw sydd yng nghanol y cyfan," meddai Sue Pritchard un o'r ymgyrchwyr.

Mae 'na wahaniaeth barn yn y dref.

"Dwi ddim yn meindio ble mae'r farchnad, cael marchnad yn y sir sy'n bwysig," meddai Percy Jenkins, un sy'n prynu ŵyn ar gyfer eu hallforio.

Ehangu

Dywedodd Martin Thomas, ffermwr gwartheg a defaid, y byddai busnesau bach annibynnol yn cau yn y dref unwaith y bydd archfarchnad ar y safle.

Ond mae Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Fynwy, Bob Greenland, wedi amddiffyn penderfyniad y cyngor i symud y farchnad y tu allan i'r dref.

"Mae'r safle yn llawer rhy fach ac mae angen symud er mwyn i'r farchnad oroesi yn y 21ain Ganrif.

"Rydym hefyd eisiau archfarchnad yn Y Fenni.

"Os na fyddwn ni'n darparu un yng nghanol y dref, fe fydd un yn cael ei chodi ar y cyrion ac fe fydd llai yn dod i mewn i'r dref."

Dywedodd Llywodraeth Cymru na allai wneud sylw cyn y dyfarniad.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol