Camymddygiad gweithwyr cymdeithasol

  • Cyhoeddwyd
Neuadd y Dref, Wrecsam
Disgrifiad o’r llun,

Roedd y ddwy yn gweithio i Dîm Asesu Plant a Theuluoedd

Mae panel wedi penderfynu bod dwy weithwraig gymdeithasol ym maes diogelwch plant yn Wrecsam wedi camymddwyn.

Roedd Gill Jones, cyn reolwr tîm, yn wynebu deg o gyhuddiadau ac mae ei henw wedi ei dynnu o gofrestr gweithwyr cymdeithasol.

Mae Sandra Dykstra, oedd yn wynebu un cyhuddiad, wedi ei cheryddu a bydd hynny ar ei ffeil am chwe mis.

Clywodd y gwrandawiad fod ffurflenni diogelwch plant wedi eu dinistrio neu wedi eu taflu i ffwrdd cyn y gellid rhoi'r wybodaeth ar gyfrifiaduron.

Bwch dihangol

Roedd Ms Jones wedi honni ei bod yn fwch dihangol ac roedd y ddwy'n gweithio i Dîm Asesu Plant a Theuluoedd Cyngor Wrecsam.

Honnodd nad oedd ymarfer y tîm yn y gwaith yn safonol a'i bod hi a'i chydweithwyr yn gorfod delio â channoedd o achosion.

Casglodd y panel fod Ms Jones a Ms Dykstra wedi dinistrio dogfennau yn ymwneud ag amddiffyn plant.

Dywedodd Susan Evans, Pennaeth Plant a Phobl Ifanc Wrecsam: "Yn dilyn camau disgyblu mewnol fe wnaeth y cyngor gyfeirio'r mater i Gyngor Gofal Cymru.

"Rydym yn falch fod penderfyniad y Cyngor Gofal yn adlewyrchu penderfyniad Cyngor Wrecsam."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol